Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aeth i fedd, agwedd ogof, Y pedair cadair a'r cof. Cuddiwyd awen pen y pair, Caewyd ar y pum cywair. Cerydd aeth ar bob cerdd ddofn, Celir y pedair colofn. Torrwyd gwraidd diarwaidd, da, Trimwchl yn y tir yma. Gradd i fil oedd ei gerdd fo, Gardd burffrwyth gordd Aberffro. [The four cadeiriau and the memory Have gone into the grave which is like a cave. The muse in the head of the leader has been concealed, The five cyweiriau [tunings] are locked away. All profound music is rebuked, The four colofnau are hidden. The gentle good source Of the tri mwchl has been cut off in this country His song was a tune for a thousand, The fine fruitful garden of the strong leader of Aberffraw.] Marwnad Dafydd Maenan, Delynor (11. 24-47) Cloi am iawngof cwlwm angerdd, Cau ar bedair cadair cerdd; Bu'n gwybod, wiw ddwysglod ddofn, Bid wir cael, bedair colofn. Prid ar gerdd, pryder a gair, (Pwy mwy?) caewyd pum cywair. Dysgasai, walch dwysgwys wedd, Drimwchl, rychor y dromwedd. Canodd y clymau, cwynynt, Cryf angerdd, ar gytgerdd gynt. Medrai 'rioed, mydrwr ydoedd, Mwys ar air a mesur oedd. Bu yn gwybod deunod da Bwys modfedd bob ysmudfa; Cynhwysiad pob tyniad tant, Appendix (Atodiad) Wiliam Cynwal's Cywyddau Marwnad Ieuan Delynor (11. 19-28)