Skip navigation

Welsh music history

 - 

Vol. 3, 1999

Llawysgrif Robert ap Huw a chanon cerddoriaeth Gymreig i'r delyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
ganrif ar bymtheg ar gyfer y sawl a ddymunai ddod i mewn i'r
hierarchiaeth farddol, yn rhannol oherwydd fod safonau'n disgyn, a
hefyd, yn l pob tebyg, i gau allan yr anhyddysg.
Yr oedd diogelu a chyfundrefnu'r traddodiad a fodolai yn ddiau'n
bwysig i wyr wrth gerdd Cymru. Dechreuwyd copo rhestrau cyn-
hwysfawr o ddarnau cerdd dant ers o leiaf yn gynnar yn yr unfed
ganrif ar bymtheg, ac mae dwy ddogfen theoretig ar gerdd dant
hefyd wedi goroesi o'r cyfnod hwn. Ni allwn fod yn sicr yn y naill
achos na'r llall pa bryd y lluniwyd y fersiwn gwreiddiol ysgrifenedig
na hyd yn oed a oedd yna fersiwn o'r fath, ond mae'r Dosbarth
Cerdd Dannau a'r Cadwedigaeth Cerdd Dannau yn honni fod rhai o
reolau ffurfiol y grefft wedi eu cyfundrefnu gan gyngor o delynor-
ion a chrythorion a gyfarfu yng Nglyn Achlach (Glendalough?) yn
Iwerddon c.1100. Cedwir enwau rhywfaint o'r rhai a oedd yn
bresennol yn nheitlau darnau yn y repertoire, ond ni wyddys yn
bendant i ba raddau y maent yn adlewyrchu awdurdod a thraddodiad
hynafol, i ba raddau y maent yn ganlyniad casglu ar lafar dros nifer
o genedlaethau, neu i ba raddau yr oedd y gorffennol trawiadol hwn
mewn gwirionedd yn rhywbeth ffug a luniwyd wrth edrych yn l
gan wyr wrth gerdd diweddarach a oedd yn awyddus i roi cadarnhad
i repertoire a oedd mewn perygl o ddiflannu am byth.
Nid yw'r erthygl hon yn ceisio profi na gwrthbrofi'r honiadau a
wnaed am y traddodiad na'i darddiadau, ond yn hytrach mae'n
trafod y duedd amlwg i ddosbarthu a chanoneiddio'r repertoire a
ddaeth i fod yn l pob golwg yng nghanol y bymthegfed ganrif.
Dechreuodd y duedd hon o bosib yn Eisteddfod Caerfyrddin c.1451,
ac fe'i hymgorfforir mewn sawl ffynhonnell: llawysgrif Robert ap
Huw ei hun, rhestrau'r darnau cerdd dant yn llawysgrifau Cymreig
yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg, a gofynion maes llafur cynhwys-
fawr y beirdd, sef Statud Gruffudd ap Cynan, a enwyd ar l brenin
Gwynedd, gwr o dras Wyddelig (c.1055-1137), ond na luniwyd yn
y ffurf a oroesodd i'n cyfnod ni, yn l pob tebyg tan y 1520au. Yn
l tystiolaeth y Statud awgrymir fod y darnau wedi eu dosbarthu yn
genres cyfansoddiadol penodol, a'r modd na chynhwysai genres
arbennig fwy na nifer penodedig o eitemau. Gellir casglu fod yna
hierarchiaeth ddealledig o genres o Statud Gruffudd ap Cynan ac
o ddetholiad o gywyddau yn clodfori campau rhai chwaraewyr
cerdd dant. Daw'n amlwg fod rhai o'r darnau mwyaf anodd o ran
techneg i'w cael mewn grwpiau penodedig o bedwar, ac mewn sawl
enghraifft daw eu henwau o wyr wrth gerdd arbennig a flodeuai yn
ail hanner y bymthegfed ganrif. Gellir casglu bod hwn yn gyfnod
allweddol yn hanes cerdd dant, pan oedd y duedd i gyfundrefnu a
chanoneiddio yn dechrau treiddio trwy'r repertoire, gan esgor ar
gyfres o eisteddfodau, maes llafur barddol newydd, a grwp newydd
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.