Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o ddogfennau theoretig. Rhydd inni gyd-destun cliriach o waith Robert ap Huw ei hun fel copïwr a thelynor ar ddiwedd traddodiad, a hefyd rai cwestiynau pryfoclyd ynglyn â natur y darnau hynny nad ydynt yn ddim mwy na theitlau i ni heddiw. 1 Y darnau sydd wedi goroesi mewn nodiant Y pedwar prif fath o gyfansoddiad cerddorol a gynrychiolir yn rhan nodiant y llawysgrif yw'r osteg (pedair eitem), y caniad (pymtheg eitem), y profiad (wyth eitem) a'r cwlwm cytgerdd (pedair set o ymarferion a seiliwyd ar y pedwar mesur ar hugain).2 Ceir hefyd dair eitem fer iawn na ellir prin eu galw'n ddarnau gwirioneddol (dwy dan y pennawd 'cainc' ac un 'pwnc'), yn ogystal ag 'Y Ddigan [Erddigan] y Droell', na chysylltir mohonynt ag unrhyw ffurf gyfansoddiadol amlwg. Cynrychiolir un genre arall, y cwlwm (y cyfeirir ato ambell dro yn y rhestrau fel y cwlwm ymryson) yn yr unig ffynhonnell arall sy'n cynnwys nodiant cyffelyb: Lbl MS Add. 14970, a gopïwyd gan Iolo Morganwg c. 1800.3 Yn y detholiad adolygol hwn, a allai o bosib fod wedi ei gopio'n anuniongyrchol o un arall 0 lyfrau Robert, sydd bellach ar goll, ceir trawsgrifiad i nodiant cerdd dant o'r darn Elisabethaidd poblogaidd 'Johnson's Medley'. Mae'r eitemau byrion hunangynhwysol 'Cainc Ruffudd ab Adda ap Dafydd' a 'Cainc Dafydd Broffwyd' yn llawysgrif Robert ap Huw yn defnyddio'r term cainc (sef 'cangen'; lluosog 'ceinciau') i nodi thema fer. Gallai'r darnau fod wedi llunio sail i amrywiadau, neu efallai yr ailadroddid hwy sawl tro yn gyfeiliant i berfformiad lleisiol.4 Yn fwy cyffredin, fodd bynnag, mae'r term cainc (a'r term cysylltiedig 'diwedd': gweler yr eirfa, tt. 308, 313) yn cyfeirio at bob adran hanfodol o ddarn hwy, mewn gwirionedd yn nodi cyfres o amrywiadau. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o'r darnau yn y repertoire cerdd dant (ac eithrio'r profiadau) yn cynnwys nifer o geinciau wedi eu cysylltu'n gadwyn, gan ddefnyddio un neu fwy o'r pedwar mesur ar hugain cerdd dant yn sail i'r adeiledd. Defnyddid y gainc fel dyfais adeiladol gyffelyb hefyd mewn llenyddiaeth Gymraeg gynnar: gelwir pedair chwedl gyntaf y Mabinogi, sy'n wahanol ond eto â chysylltiad thematig, yn Pedair Cainc y Mabinogi. Mae'r term pwnc hefyd yn gyfarwydd y tu allan i repertoire cerdd dant, gan y ceir ef mewn repertoires cerddorol Ewropeaidd eraill, yn enwedig ar gyfer y llawfwrdd, i nodi uned o gyfansoddi polyffonig estynedig; yn wir, ysgrifennai cyfansoddwyr y Dadeni nifer fawr o 'points' byr dynwaredol, i fod yn sail ar gyfer eu hefelychu. Ymddengys fod swyddogaeth braidd yn wahanol i'r un pwnc a gopïwyd gan Robert, fodd bynnag, oherwydd fe'i gelwir yn 'Pwnc