Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfansoddwyr Robert ap Huw PETER CROSSLEY-HOLLAND Mae'r ddau bwnc o adnabod a dyddio cyfansoddwyr y gerddoriaeth a gopïwyd i lawysgrif Robert ap Huw wedi eu bwrw i'r cysgod i raddau helaeth gan honiadau Lewis Morris am ei hynafiaeth chwedlonol bron, a'r adwaith amheugar di-fudd i hyn. Mae'r crynodeb hwn yn ymgais i adolygu'r defnydd sydd ar gael ar sail gwbl drefnus ac i chwilio am dystiolaeth newydd. Dibynna dehongli'r llawysgrif yn ddigonol ar ei gweld yn ei hamgylchedd ehangach, ac asesu arwyddocâd y cyfnod pan oedd Robert ap Huw wrthi'n ei chopïo mewn perthynas â hanes cerdd- oriaeth Cymru yn gyffredinol. Ceir dau ragofyniad methodolegol hanfodol: yn gyntaf, cyfosod ffynonellau gwreiddiol megis rhestrau ceinciau, testunau addysgol ac ysgrifau theoretig; yn ail, archwilio'r wybodaeth o ddisgyblaethau cysylltiedig, gan gynnwys hanes, ach- yddiaeth a llenyddiaeth (yn arbennig barddoniaeth). Darllenwyd dros dri dwsin o lawysgrifau a'r mwyafrif â darnau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â cherdd dant. Mae llawer ohonynt yn honni bod yn gopïau o ffynonellau llawer cynharach, er mai dau yn unig mewn gwirionedd a ysgrifennwyd cyn yr unfed ganrif ar bymtheg.2 O'r enwau a geir o fewn neu wrth ochr teitlau'r un ar ddeg ar hugain o weithiau yn llawysgrif Robert ap Huw,3 ymddengys fod naw yn briodoliad i gyfansoddwr. Mae Tabl 1 yn rhestru'r naw enw hyn a'r pedwar gwaith ar ddeg y maent ynghlwm wrthynt (ceir y tablau a'r ffigurau i gyd ar tt. 194-205). Yn y ddau waith ar bymtheg sy'n weddill (a restrir yn Nhabl 2) ni cheir priodoli amlwg i unrhyw gyfansoddwr, er gall y teitl gynnwys enw serch hynny (fel, er enghraifft, yn rhif 29 'Caniad marwnad Ifan ap y Gof', sy'n alarnad i'r cyfansoddwr yn hytrach na gwaith a gyfansoddwyd ganddo). Er yr ymddengys fod Robert ap Huw wedi copïo'r llawysgrif yn 1613 neu oddeutu'r flwyddyn honno, mae llawer o'r cyfansoddwyr