Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fformiwlâu Melodig yn Llawysgrif Robert ap Huw PETER GREENHILL Mae testun cerddorol llawysgrif Robert ap Huw yn ddigon sylweddol ac yntau yn 86 o dudalennau yn cynnwys dros 10,000 o golofnau o symbolau inni fedru asesu sut y trefnwyd y gerddoriaeth sydd ynddo ar linellau ffurfiol. Mae llawer modd posibl o archwilio hyn, ond yma bwriadaf ganolbwyntio ar ddimensiwn llorweddol neu linellol y testun, trwy fanylu ar sut y defnyddid fformiwlâu i ail- adrodd a thrawsnewid tameidiau o destun o fewn gweithiau unigol, a thrwy nodi tameidiau fformiwlaidd a ddyblygwyd ac a draws- newidiwyd rhwng gwahanol gyfansoddiadau. Ceir tystiolaeth yn y testun o systemeiddio helaeth a thrwm o felodi, a chredaf y gall hyn fod yn dra defnyddiol i'n cynorthwyo i ddod i ddeall y gerddoriaeth. Ar sail y ffaith nad yw trawiau perthynol a hyd perthynol y nodau wedi eu sefydlu yn bendant yr adeg hon, ni ellir mewn gwirionedd sôn ag unrhyw bendantrwydd am amlinellau penodol y gerddoriaeth. Felly, byddaf yn ymdrin â'r testun per se, ac er y bydd yn gyfleus yn aml i ddefnyddio terminoleg gerddorol i wneud hynny, rhaid deall mai ar y cyfan amlinellau'r tabl nodiant a symudiadau'r telynor yn unig a ddisgrifir.1 Trwy ddyfynnu enghreifftiau a chyfeirio at leol- iadau penodol, yr wyf yn gobeithio gwneud maint a chymhlethdod eithaf brawychus y testun yn fwy hylaw i'w hastudio yn y tymor hir, ac yn fwy ymarferol ddefnyddiol yn yr ymgais i adfer y gerdd- oriaeth. 1 Fformiwlâu ar gyfer ailadrodd 0 ganlyniad i'r modd gofalus a thrwyadl y cofnodwyd gweithiau yn y tabl nodiant, gyda chyfarwyddiadau geiriol lle cwtogwyd eu testun, y mae'n bosibl bod yn fanwl bendant ynglyn â lle y defnyddid ail- adrodd. Fe'i defnyddid yn helaeth. Mae'n beth cyffredin i dameidiau