Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

byrion o'r testun gael eu hailadrodd yn eithaf rhydd o fewn gwaith; ond fel rheol gwneir yr ailadrodd yn strwythurol drwy gyfrwng un o nifer o fformiwlâu. Mae'n gyfleus ystyried y rhain yn gyntaf mewn perthynas â darnau cyfan, ac yna mewn perthynas â thameidiau byrrach o'r testun. Ailadroddir darnau yn aml. Yn wir, anaml y ceir darn nas ail- adroddir, naill ai ar unwaith neu yn nes ymlaen mewn gwaith. Mae'n amlwg yr ystyrid yr elfen hon yn y gerddoriaeth yn ddigon arwyddocaol i haeddu cael ei mesur neu ei rheoli yn eithaf manwl, oherwydd graddfa a natur yr ailadrodd mewn gweithiau unigol yw'r ffactorau sydd yn esgor ar brif ddosbarthiad y gweithiau yn kaniad, gosteg, ac ati.2 Gwelir fod gweithiau o fewn pob dosbarth yn cydymffurfio â phatrwm arbennig o ran ailadrodd. Mae'r patrymau hyn yn dibynnu ar raniadau yr adrannau (a rifir gan amlaf) yn ddau fath o ddarn: kaingk a diwedd.3 Yn y darnau kaingk fel rheol ceir ailddatganiad ar unwaith o'r hyn sydd yn ddarn sengl fel arfer, ac ni ddychwelir ato byth wedyn heb wneud o leiaf ryw amrywiad neu newid. Yn y darnau diwedd, a osodir tua diwedd yr adrannau ar ôl kaingk, fel rheol ni cheir ailddatganiad ar unwaith, ond bydd y darn yn cael ei ailadrodd ar ddiwedd yr adrannau dilynol, fel y gohirir yr ailadrodd. Ambell dro mae diwedd yr adran gyntaf yn ffurfio diwedd pob adran yn y gwaith. Yn ei ffurf symlaf, felly, y cynllun yw AAB, CCB, ac yn y blaen.4 Bydd y duedd tuag at ailadrodd ar unwaith neu ei ohirio mewn gwaith yn cael ei phennu gan gymhareb hyd y gaingk i'r diwedd, dyma beth a reolir gan y ffurf. Mewn gweithiau gosteg, mae'r kaingk yn ffurfio deuparth a'r diwedd yn ffurfio traean yr adran, ac ailadroddir yr un diwedd trwy gydol y gwaith. Yn y gweithiau kaniad, mae'r kaingk fel rheol yn ffurfio mwy na deuparth yr adran, mae'r cyfrannedd ei hun yn amrywio, ac yn aml ni chynhelir y diwedd yn ddigyfnewid drwyddynt.5 Yn y gweithiau kwlwm kyt- gerdd mae'r kaingk yn ffurfio'r adran gyfan, gan nad oes diwedd. Yn y gweithiau profiad, ni cheir rhaniad ffurfiol yn adrannau, ac y mae hynny o ailadrodd a geir yn digwydd ar unwaith. Mae'n bur debyg y dylid ystyried mai un adran yr un sydd yn y gweithiau kaingk byrion iawn ac yn 'Y Ddigan y Droell', ac efallai yr ail- adroddid hwy sawl tro. Mae rhai gweithiau yn annodweddiadol o'u dosbarth. Nid oes gan 'Kaniad y Gwyn Bibydd' ddiwedd nac ychwaith gyfarwyddiadau ar gyfer ailddatgan yr adrannau, a gall hyn awgrymu ei fod wedi dod i mewn i'r repertoire o genre y pibydd, fel yr awgryma ei deitl o bosib. Mae 'Profiad Fforchog Ifan ab y Go' yn dechrau ag adrannau wedi eu rhifo nas ailddatgenir. Mae posibiliadau amrywiol iawn i'r system hon o reoli ailadrodd