Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tabluniau Llawysgrif lolo Morganwg (Y Llyfrgell Brydeinigf MS Add. 14970) PAUL WHITTAKER 1 Rhagarweiniad Mae Lbl MS Add. 14970, a adwaenir hefyd fel llawysgrif Iolo Morganwg, yn gasgliad o dabluniau telyn a barddoniaeth Gymraeg ganoloesol yn llaw Edward Williams, sy'n fwy adnabyddus fel Iolo Morganwg (1747-1826). Yn ôl nodyn ar y ffolio cyntaf, copïwyd y llawysgrif gan Williams ym 1800 0 lyfrau ym meddiant Rhys Jones, Y Blaenau, Llanfachreth, Meirionnydd (1718-1801), a oedd yn fwy cyfarwydd fel bardd a golygydd yn hytrach na cherddor.1 Cyflwyn- wyd llawysgrif Williams i'r Amgueddfa Brydeinig gan Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1844. Mae adran y tabluniau yr wyf yn ymdrin â hi yma yn ymestyn o ffo. 3r i 8r: cynhwysir fersiwn printiedig yn The Myvyrian Archaiology of Wales.2 Mae'r ffynhonnell a ddefnyddiodd Edward Williams fel patrwm bellach ar goll, ac mae ei drawsgrifiad yntau yn anorffenedig: mae'n dechrau â'r ddeuddegfed gainc 'Cwlwm is gywair',3 ac yn gorffen ag adran gyntaf darn dan y pennawd 'Medle', y gwyddys o ffyn- onellau eraill fod iddo nifer o adrannau. Rhwng y cwbl, copïodd bedwar darn, a dau ohonynt yn unig yn gyflawn: Ffolio 3r 'Cwlwm is gywair' (ceinciau 12-15 yn unig) 3v-5r 'Cwlwm bach ar y go gywair' 5r-7r 'Yr hen gwlwm ar y go gywair' 7v-8r 'Medle' (adran gyntaf yn unig) 0' i chymharu â llawysgrif Robert ap Huw, mae cynnwys cerddorol Lbl MS Add. 14970 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel llawysgrif Iolo) wedi ei hesgeuluso'n annheg. Cwyd hyn yn rhannol o enw gwael Edward Williams fel ysgolhaig trwyadl, er gwaethaf ei ymdrechion i feithrin y diwylliant llenyddol a cherddorol Cymreig trwy gopïo