Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a chyhoeddi llawysgrifau cynnar (yn enwedig fel rhan o dîm golygyddol y Myvyrian Archaiology of Wales) ac fel sefydlydd mudiad yr eisteddfod fodern. Fodd bynnag, ymddengys fod y pedwar darn yn deillio o ddogfen ddilys o ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, a bod Edward Williams wedi gwneud pob ymdrech i'w copîo'n gywir, er nad oedd ganddo fawr o wybodaeth am fanylion technegol y nodiant yr oedd yn ei atgynhyrchu. Yn wir, ymddengys nad ef oedd yn gyfrifol am rai o'r gwallau niferus a geir yn y trawsgrifiad. Ar y lleiaf, mae'r llawysgrif Iolo yn ychwanegu pedwar darn arall at draddodiad cerddorol unigryw; ond daw ei gwir arwyddocâd o'r ffaith y gall dadansoddiad llawn o'i chynnwys daflu goleuni ar ei chwaer enwocach, llawysgrif Robert ap Huw. 2 Y nodiant Ac eithrio rhai gwallau anfwriadol a defnydd helaethach o arwydd- ion rhythmig, mae nodiant y llawysgrif Iolo yr un fath yn union ag un llawysgrif Robert ap Huw ac mae'n gweithio yn yr union fodd. Mae'r arwyddion sy'n nodi lefelau'r wythfedau yn aml ar goll neu'n amwys, ond yn ffodus, mae digon o awgrymiadau trwy ailadrodd uniongyrchol a dilyniannol i fedru gwneud adluniad ymarferol. At ei gilydd mae'r darnau yn y ddwy lawysgrif yn cynnwys cyfres o amrywiadau (ceinciau), a phob un yn gorffen â diwedd ('refrain'), a all amrywio ambell dro yn ôl cynnwys y gainc o'i flaen. Mae'r gwahaniaeth rhwng rhai o'r amrywiadau o ran eu cynnwys mor fychan nes i'r sawl a luniodd y tabl nodiant gwreiddiol ddatblygu system o dalfyriadau drwy ddefnyddio cyfarwyddiadau geiriol ac arwyddion megis troellen a chroes. Felly gellir dehongli 'bis dechrau o'r groes' fel 'ailadrodd o arwydd y groes ar ddechrau ['r adran hyd at y droellen gyntaf]'. Y cyfarwyddyd a ddefnyddir fynychaf yw 'ffordd', sy'n golygu 'parhewch â'r adran fel o'r blaen, ond defnyddiwch y dechneg amrywio a gyflwynwyd yn awr'. Ni ddef- nyddir y confensiynau hyn yn gyson bob amser yn llawysgrif Robert ap Huw: yn aml hepgorir yr arwyddion troellog, fel y gall y cyfarwyddyd 'bis dechrau' ('ailadroddwch y dechrau') yn aml gyfeirio yn unig at y rhan o'r adran hyd at y llinell fertigol gyntaf. Yn aml yr oedd y lle a adawodd Robert ap Huw ar gyfer y cyfar- wyddiadau hyn mor gul fel y bu'n rhaid iddo rannu geiriau fel 'ffordd' a 'dechrau', gan eu gwneud yn anodd eu deall ar wahân, a gallai hyn i raddau esbonio'r gwallau niferus a wnaeth Edward Williams wrth gopïo cyfarwyddyd tebyg. Ceir rhai mympwyon orgraffyddol yn llawysgrif Robert ap Huw a