Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau 1 'Llên Gerdd Dant. Rhys Goch Eryri. Iolo Goch. Llawdden. Gryffydd Gryg./O Lyfrau Rice Jones o'r Blaenau/ym Meirion./a gopiwyd gan/Iolo Morganwg./1800. (Lbl MS Add. 14970, ffo.l.) 2 Edward Williams [et al.], The Myvyrian Archaiology of Wales: collected out of Ancient Manuscript (Dinbych, 1870), 1079-88. 3 Dewisais ddefnyddio'r orgraff fodern ar gyfer y termau Cymraeg, o gofio anghysondeb y ffynonellau. 4 P. D. Whittaker, 'British Museum Additional Manuscript 14905: An Interpretation and Re-examination of the Music and Text' (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, traethawd M.A., 1974) 220 ymlaen. 5 Am esboniad o'r system fesurau gweler ibid., pennod rv. 6 Ac eithrio ffo. 3r-4v a 7v-8r y llawysgrif Iolo, a atgynhyrchir fel Platiau 1-4, mae'r enghreifftiau cerddorol yn yr erthygl hon yn fy hadluniad llawn i fy hun (heb ei dalfyrru) o'r gwreiddiol. Atgynhyrchwyd y ddau ffigur o lawysgrif Robert ap Huw o'r argraffiad ffacsimile. 7 Gweler Whittaker, op. cit., 178 ymlaen. 8 Mae'r rhifo ar y ceinciau ar ffo. 3v yn ddryslyd: mae cainc 1 a'i diwedd yn parhau i linell 3, colofn 7, ac yn y fan honno dylid cael 'ij'. Cainc 2 yw gweddill llinell 3, hyd at y cyfarwyddyd 'ffordd'. Cainc 3 yw llinell 4, colofnau 1-14 a chainc 4, gweddill y llinell. 9 Wedi ei restru yn John M. Ward, Music for Eliiabethan Lutes (Oxford, 1992), atodiad F, 97-9. Yr wyf yn ddiolchgar i John Harper am y sylw hwn. 10 Whittaker, op. cit., 34 ymlaen. 1 Er enghraifft, mae'r un tant, sy'n ddiau yn c naturiol ar ffo. 7v, llinell 2, yn dod yn c lonnod bendant yn llinell 3, colofn 9.