Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

statws barddol a'r safle o fewn neuadd y llys, lle chwaraeid y golofn o bosib wrth ochr y golofn ganol. Cower/Gower: gweler Cywair Crwth Offeryn tri-thant, pedwar-tant neu chwe-thant a chwaraeid â bwa yn ogystal â'i blycio i raddau: chwaraeid y rhan fwyaf o'r repertoire cerdd dant ar naill ai'r crwth neu'r delyn. Crychiad (llu. Crychiadau) Un o'r pedwar math o ddilyniant ffiguraidd mewn cerdd dant, a geir yn bennaf yn y llaw uchaf. Awgryma'r traethodau fod gan y rhain swyddogaethau penodol iawn a oedd yn amlwg yn cyfateb i ffigurau rhethreg glasurol. Ystyrid fod y crychiad yn cyflawni neu'n cwblhau (h.y., yn perffeithio) y cyweirdannau a'r tyniadau; yr oedd y cysylltiad yn uno'r cyweirdant a'r tyniad yn un ffigur; yr oedd y plethiad yn cychwyn y cyweirdant neu'r tyniad, gan eu haddurno a chyflwyno gwrthdrawiad; tra bo'r tagiad yn ffurfio saib, gwahaniad neu egwyl rhwng y cyweirdannau a'r tyniadau. Cwlwm/Cwlwm Ymryson (llu. Clymau): awgryma gysylltu neu uno ac fe'i defnyddir yma i ddynodi math o gyfansoddiad mewn cerdd dant. Mae'r rhan fwyaf o'r ffynonellau yn talfyrru 'cwlwm ymryson' i 'cwlwm', ond gall y teitl llawnach awgrymu y defnyddid y cyfryw ddarnau o bosib fel darnau prawf (ymryson = ymrafael, anghydfod neu gystadleuaeth). Ymddengys y term am y tro cyntaf mewn cyd-destun cerddorol mewn tair cerdd a briodolir i Ddafydd ap Gwilym (fl. 1320-70) ac yn Llyfr Coch Hergest (1382-1410): 'Ar clymeu (modulis) a ganei ef a dangossynt y vot yn telynyawr'. Awgryma'r rhestrau alawon mai'r cwlwm ymryson oedd y math mwyaf niferus o ddarn mewn cerdd dant, er mai tair enghraifft yn unig (un ohonynt yn anghyflawn) sydd wedi goroesi mewn nodiant yn Lbl MS Add. 14970 ('llaw- ysgrif Iolo Morganwg'). Os yw'r darnau hyn a gadwyd yn rhai dilys, dangosant gyfatebiaethau strwythurol cryf â'r caniad, gan fod iddynt ddeuddeg adran hanfodol a phob un wedi ei rhannu'n gainc a diwedd. Rhagnodir gwahanol nifer o glymau ar gyfer pob lefel o'r maes llafur barddol yn Statud Gruffudd ap Cynan, ond awgryma'r rhestrau y gallai'r term cwlwm gynnwys ffurfiau mwy anodd y gadair, y golofn a'r tri mwchl. Ambell dro ceir 'cwlwm' fel teitl cyffredinol am restrau o fesurau. Cwlwm Cytgerdd (llu. Clymau Cytgerdd): mae 'cytgerdd' yn aw- grymu cyfuniad o 'cyd' a 'cerdd'; ymddengys fod defnydd cynharaf y term mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym (/7.1320-70) tra bo