Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwahanol gategorïau o feirdd a cherddorion, i ddod â threfn i grefftau cerdd dant a cherdd dafod. Honna'r Statud ei bod wedi ei seilio ar reoliadau cynharach a bennwyd gan Ruffudd ap Cynan, Tywysog Gwynedd (c.1055-1137). Fe'i diwygwyd yn ddiwedd- arach a gwnaed y gofynion yn fwy llym ar gyfer ail Eisteddfod Caerwys 1567. (Am destun llawn a chyfieithiad, gweler Klausner, 'Statud Gruffudd ap Cynan', tt. 282-98. Gweler hefyd Datgeiniad, Disgybl, Pencerdd.) Tagiad (llu. Tagiadau): gweler Crychiad Telyn (llu. Telynau) Chwaraeid llawer math gwahanol o delyn, y rhan fwyaf â thannau rhawn, yng Nghymru yn ystod y cyfnod (c. 1340-1485) a gynrych- iolir gan y darnau yn y llawysgrif. Yr oedd gan delynau c.1300 seinflychau wedi eu cerfio o un darn o bren, ond erbyn blynydd- oedd cynnar y bymthegfed ganrif, cafwyd cynllun clasurol i'r delyn Gymreig, gyda seinflychau a orchuddid â chroen caseg, yn cynnwys gwrachïod (pegiau pren cam) a gyffyrddau'n ysgafn â'r tannau gan beri iddynt suo. Tri mwchl (llu. Tri mychlau) Defnyddid math arbennig o anodd o gwlwm fel darn arholiad ar gyfer y penceirddiaid mwyaf medrus ar y delyn. Noda Statud Gruffudd ap Cynan fod y 'Tri mwchl odidog' yn cael ei hystyried yn gydradd â hanner cant o glymau. Ceir y term yn nheitl dau ddarn arall: y 'Tri mwchwl newydd' (y cyfeirir ato yng nghopïau diwedd- arach y Statud) a 'Tri mwchl Gwas Mair'. Mae Geiriadur William Owen Pughe (1803) yn diffinio 'mwcwl' fel 'a mixture; that is full of transitions', sydd o bosib yn awgrymu 'cwpwrdd gwydr' sy'n arddangos gwahanol dechnegau (cf. Gwyddelig mocol, rhwydwaith neu we). Tyniad (llu. Tyniadau) Term â chanddo gysylltiad â systemau cerddorol Ewropeaidd cynharach, sydd â sawl ystyr wahanol mewn cerdd dant. Efallai bod dau ddefnydd o'r term yn fwy arwyddocaol yn y cyswllt hwn: (i) uned eilradd dwy uned harmonig a ailadroddir, a ffurfiai elfen hanfodol ym mhob mesur cerdd dant; (ii) unrhyw dant, traw neu ddigwyddiad cerddorol a geir o fewn uned y tyniad yn (i) uchod. Gweler hefyd Cywair, Cyweirdant, Mesur. Casglwyd gan Sally Harper Cyfieithwyd gan Glenda Carr