Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth yw'r holl bethau er hyn? Mae dialedd am delyn. Pa bleser rhag trymder trwch I ddyn, pa fwy diddanwch 80 Na chlywed [ ] Miwsig telyn 'mysg tylwyth? Hon gynt fu i dynnu dig I'w chadw 'n lân barchedig. Difai'r rhôi'r brenin Dafydd 85 Ei law ar dant lawer dydd. Ar hon y cair o'i rhinwedd I Dduw fawl wir ddwyfol wedd. Dyro, dy glod a eurwn, Dêl yn hawdd, delyn i hwn; 90 Ei chafn a'i gwaith a'i chefn gwych A'i chân pob dyn a'i chwennych, Dilwgr dalaith rhwng dwylaw, Dilwch ei llorf dêl o'ch llaw, A'r tannau fal weir tynion 95 A luniwyd hardd lonaid hon; Os ei llun ni chytunodd O ran ei maint o'r un modd, Yn gytûn hwy gytunan', Croyw glych yn y cywair glân; 100 Ebillion union waneg Yn ei dal ugain a deg, Ceimion wrachïod cymwys Yn siarad bob teimlad dwys. Dêl unrhodd, diwael anrheg 105 Dêl i un dyn delyn deg, A'th glod weddol a'th foliant A saif tra fo taro tant. Ob MS e 10, 1