Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyhoeddir Hanes Cerddoriaeth Cymru gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran Canolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor. Nod y cylchgrawn yw cyhoeddi ysgolheictod cerddoriaeth Cymru sy'n cynnwys hanes cerddoriaeth, hanesyddiaeth cerddoriaeth, dadansoddi cerddoriaeth ac ethnogerddoreg. Darllenir yr erthyglau gan arbenigwyr priodol. Mae i'r cylchgrawn dri phrif fwriad: astudio cerddoriaeth Gymreig, astudio cerddoriaeth yng Nghymru, ac astudio cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Cefnogir y cyhoeddi gan yr Adran Gerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor. Cyflwyno erthyglau a gohebiaeth Archwilir pob cyfraniad, y gellir eu cyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan o leiaf ddau aelod o'r Bwrdd Golygyddol neu arbenigwyr priodol eraill. Dylai'r cyfranwyr ddilyn y canllaw arddull fel a gyhoeddir yn Journal of the Royal Music Association, 112, rhan I (1987), 168-71. Dylid anfon cyfraniadau a gohebiaeth arfaethedig at y Golygydd, Hanes Cerddoriaeth Cymru, Adran Gerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG. (Ffôn: 01248 382181; Ffacs: 01248 370297; Llyth-el: s.harper@bangor.ac.uk.) Tanysgrifiadau Pris tanysgrifiad yw £ 15 y gyfrol, sy'n cynnwys postio. Dylid anfon archebion tanysgrifio i Wasg Prifysgol Cymru, 6 Stryd Gwennyth, Cathays, Caerdydd, CF2 4YD (Ffôn: 01222 231919; Ffacs: 01222 230908). Canolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru Gellir cael gwybodaeth ynglyn â'r Ganolfan oddi wrth yr Adran Gerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor. Argraffwyd ym Mhrydain gan Bookcraft, Midsomer Norton