Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru: Yr Achos o blaid Bywgraffiad DAVID ALLSOBROOK Efallai ei bod yn gryn syndod nad oedd gan John Davies yn ei arolwg Cymraeg enfawr, Hanes Cymru (1993), fawr i'w ddweud am arwyddocâd cerddoriaeth yn esblygiad hanesyddol Cymru.1 Mae hepgor hyn braidd yn debyg i ysgrifennu hanes cymdeithas yn Lloegr heb sôn am griced. Yn yr ugeinfed ganrif ni welwyd pwysigrwydd gweithgarwch a doniau cerddorol i'r Cymry yn fwy eglur yn unman nag yn lle cynyddol ddatblygiadol cerddoriaeth yn y system addysg, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Ond mae'r sawl sydd wedi ysgrifennu am fudiadau cerddorol o'r fath, yn Lloegr yn ogystal â Chymru, wedi defnyddio brwsh bras neu, efallai, arfau methodolegol diduedd y cymdeith- asegwr i bortreadu'r ffynhonnau egni a ddyfrhaodd ddatblygiadau cerddorol y gymdeithas fodern. O weithiau cyffredinol Henry Raynor, trwy Percy M. Young ac ymlaen, yn fwy diweddar, at astudiaeth dreiddgar Dave Russell o gerddoriaeth boblogaidd, mae'r pwyslais wedi bod fwy ar ddatblygu sefydliadau gwyliau, bandiau pres, corau meibion a chorau cymysg fel ffenomenau, a chystad- laethau o bob math nag ar arwyddocâd unigolion blaenllaw.2 Efallai yr ymddengys hyn yn beth rhyfedd; ond er bod cerddora yn ddiau yn weithgarwch ar y cyd ac yn anghenraid cymdeithasol, mae ar yr un pryd yn ddisgyblaeth unigolyddol. Dylid mynnu bod datblygiadau mewn addysg cerddoriaeth, fel mewn cerddoriaeth ei hun, wedi dibynnu, a byddant bob amser yn dibynnu, ar ysbryd- oliaeth, arweiniad gweledigaethol a gallu gweinyddol unigolion goleuedig a phenderfynol. Gall pwyllgorau wneud sylwadau, gryn- hoi, arolygu ac annog; ond yn y pen draw mae cynnydd cerddorol yn galw am flaengarwch, esiampl ac ymdrech unigol i'w annog, ei ddatblygu a'i gynnal. Gellir dadlau hefyd, gyda llaw, mai ychydig o ddylanwad yn gymharol a gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol, er enghraifft, ar gynnydd cerddorol cyffredinol yng Nghymru: gellid