Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ifan ab y Gof, Llywelyn ab Ifan ab y Gof, a Dafydd ab y Gof (Dafydd Athro): Tri Chyfansoddwr Cerddoriaeth o Fôn? DAFYDD WYN WILIAM Yn y llawysgrif a briciwyd yn c.1613 gan Robert ap Huw (1580- 1665), y telynor a'r prydydd o Fôn, ceir tri chyfansoddiad a briodolir i Ifan (neu Ieuan) ab y Gof, un i Lywelyn ab Ifan ab y Gof, ac un arall i Ddafydd Athro (a enwir yn Dafydd ab y Gof mewn ffynonellau eraill).1 Aeth eu cyfansoddiadau eraill, ysywaeth, ar ddifancoll. Naturiol yw tybio fod Ifan a Dafydd yn gyfoeswyr. Ar hyn o dro ceisir gwisgo ychydig gnawd am esgyrn enwau'r cerddor- ion hyn. Man cychwyn yr ymchwil, wrth gwrs, yw'r llawysgrif honno, AB MS Peniarth 55, a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llaw- ysgrif o dde-ddwyrain Cymru a gopïwyd tua 1500, sy'n cynnwys, ar dudalen 106, y cyfeiriadau cynharaf y gwyddys amdanynt at gyfan- soddiadau cerddoriaeth a luniwyd ar y naill law i Ifan ab y Gof ac i Ddafydd ab y Gof, ac ar y llaw arall at gyfansoddiadau cerddoriaeth a luniwyd ganddynt. Atgynhyrchir tudalen 106 ym Mhlât 1, ac fe'i trawsgrifir yn Ffigur 1 (gweler tt. 28-30 ar gyfer y ffigurau a'r platiau). Heb na rhwysg teitl na rhodres eglurhad fe gofnododd y copïwr anhysbys enwau dwy cainc ar hugain, yn eu plith tair marwnad sy'n dilyn ei gilydd:2 barnod Ivan ab y gov barnod ddavydd ab y gov barnod ddavvdd ab gvilym a hefyd tair gosteg sy'n dilyn ei gilydd: gsteg Ian ab yg ov gos deg ddavydd ab y gov gos deg bedn trevddvn Rhydd y cofnodion moel hyn sicrwydd fod Ifan a Dafydd yn gyfan- soddwyr cerddoriaeth a'u bod ill dau wedi marw cyn 1500.