Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Robert Peilin (cl575-c.l638) a 'Josseffüs', ei Draethawd ar Gerddoriaeth IRWEN COCKMAN Ychydig iawn sydd wedi ei ysgrifennu am y cerddor Cymreig, Robert Peilin (c. 1575-c. 1638) ond rhaid dechrau drwy gyfeirio at dri chysylltiad pendant. Yn gyntaf, yr oedd yn delynor a chanddo gysylltiadau â llys Iago I; yn ail, yr oedd ei enw ymysg y cerddorion a dreuliodd dymor y Nadolig 1595 yn Lleweni, cartref teulu'r Salesburiaid yn Nyffryn Clwyd, Sir Ddinbych; ac yn drydydd, cymharodd y bardd Huw Machno (c. 1560-1637) ef â'i gyfoeswr enwog Robert ap Huw (c. 1580-1665). Dylid ymchwilio yn fwy manwl i'r cysylltiadau hyn. Y mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth a ddarganfuwyd am fywyd Peilin i'w gael yn y cywyddau a ysgrifennwyd ar ei ran, neu i ofyn ffafr ganddo ar ran rhywun arall. Daethpwyd o hyd i un ar ddeg o'r cywyddau hyd yn hyn. Ysgrifennwyd tair ohonynt gan Huw Machno, tair gan Richard Cynwal (m.1634), dwy gan Tomas Prys (c. 1564-1634), un gan Gadwaladr Cesail (fl. l 610-1625) a hefyd gan Watcyn Clywedog (/7.1630-1650) ac Edwart ap Raff (/7.1557- 1606).2 Atgynhyrchir dwy o'r cerddi mwyaf diddorol fel Atodiad I (tt. 57-67). Y mae naw o'r cywyddau hyn yn cyfeirio at gysylltiad Peilin â llys Iago I, gan ddefnyddio cymalau fel 'gwas y brenin' neu 'telynor gras y goron': rhestrwyd y cyfeiriadau perthnasol yn Atodiad II (tt. 68-71). Fe geir un cywydd arall gan Huw Machno, 'Cywydd i ofyn telyn', sy'n gofyn telyn gan Robert ap Huw ar ran Huw Llwyd (1568?-1630?), y bardd a'r milwr o Gynfal Mawr ger Maentwrog, sydd yn enwi Peilin hefyd fel yr unig un y medrid cymharu Robert ap Huw ag ef o ran gallu a dawn: P'le ca'i gymar dihareb? P'le ni wn? On'd Peilin, neb.3 Y mae'r ffaith i Beilin dreulio tymor y Nadolig 1595 yn Lleweni, yn Nyffryn Clwyd, wedi ei gofnodi yn Llawysgrif Bangor Gwyneddon 4,