Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agwedd Gosmopolitanaidd John Thomas, 'Pencerdd Gwalia' (1826-1913) CARYS ANN ROBERTS Hawlia John Thomas, 'Pencerdd Gwalia' (1826-1913) statws unig- ryw yn hanes diwylliant cerddorol Cymru, yn bennaf am fod ei gyfansoddiadau a'i ymarferiadau yn para mor boblogaidd ymhlith pherfformwyr heddiw. Ym 1994 cyflwynwyd casgliad sylweddol o'i lythyrau a'i raglenni cyngerdd yn ogystal â dyddiaduron o'i deithiau ar gyfandir Ewrop rhwng 1851 a 1874 i'r Llyfrgell Brydeinig o ffynhonnell anhysbys. Ffurfia'r deunydd newydd hwn na chafodd sylw eisoes, ac a drosglwyddwyd i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn hwylustod astudio, destun yr erthygl hon.1 Gadawodd John Thomas dde Cymru am y brifddinas y tu hwnt i Glawdd Offa ym 1840. Yn gartref i fwy o weithgareddau cerddorol nag unrhyw ddinas Ewropeaidd arall, yr oedd Llundain eisoes yn brif ganolfan ddiwylliannol a chymdeithasol Prydain yn ystod y ddeunawfed ganrif.2 Yr oedd cerddori yn y taleithiau, lle diflan- nodd y nawdd i raddau helaeth erbyn 1800, yn dibynnu fwyfwy ar ymdrechion amaturiaid. Cred Ann Rosser mai ar lawr y dafarn y teimlai telynorion Cymreig y ddeunawfed ganrif fwyaf cartrefol,3 ac felly nid oedd gan y rhai a ddymunai ddilyn gyrfa gerddorol ddewis ond gadael eu mam-wlad. Yr oedd John Parry 'Ddall' (c.1710-82) ac Edward Jones, 'Bardd y Brenin' (1752-1824) eisoes wedi creu argraff ddofn ar fywyd cerddorol Llundain, ac yr oedd John Thomas yr hynaf yn awyddus iawn i'w fab ifanc efelychu llwyddiannau y telynorion hyn, pan symudodd ei deulu cyfan o Ben-y-bont ar Ogwr i Lundain ym 1840. Mynychodd John Thomas, y mab, yr Academi Gerdd Frenhinol ym mis Medi'r flwyddyn honno, o dan nawdd yr Arglwyddes Ada Lovelace, merch yr Arglwydd Byron ac yntau ond pedair ar ddeg oed. Ei athro telyn yno oedd John Balsir Chatterton (1805-71), fu'n ddisgybl i N. C. Bochsa (1789-1856) a Labarre (1805-70); penodwyd Chatterton yn athro telyn yn yr Academi ym 1827, ac yn