Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fodd bynnag, gorchmynnwyd iddo dalu rhodd er ewyllys da, oherwydd disgwylid i wyr mawrion cymdeithas ddangos diddordeb mewn materion lleol. Yr oedd Llwydlo, 'prifddinas goll Cymru', ryw ddeng milltir ar hugain i'r de o'r Waun, hefyd wedi dod yn ganolfan gerddorol lewyrchus erbyn y bymthegfed ganrif.9 Fel cartref taleithiol Tywysog Cymru, a phreswylfan barhaol Arglwydd Lywydd Cymru a'r Mers, yr oedd statws Llwydlo fel pencadlys Cyngor y Mers yn ei gwneud yn ganolbwynt diwylliannol a gwleidyddol yr holl ranbarth. O ganol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, noddid cerddoriaeth yn eglwys blwyf Sant Laurence gan gyngor y dref, ac mae eu cyfrifon manwl yn dangos yn eglur ei gweithgareddau cerddorol.10 Deuai llawer o ymwelwyr brenhinol i Gastell Llwydlo hefyd: yr oedd yno, fel yn Y Waun, gapel, ac ym 1616, yn ystod dathlu brwd arwisgo Siarl yn Dywysog Cymru, gorymdeithiodd y beilïaid, yr ynadon, carolwyr a chôr Sant Laurence drwy'r dref i'r castell i wledda ac yna aethant i'r gosber 'where much rejoycing was without doores and excellent Musicke of Voyces in singing many Psalmes and new Anthemes, within the saide Chappell'.11 2 Llawysgrifau Castell y Waun Yr oedd tarddiad gwreiddiol llyfr organ Castell y Waun, MS 6, yn anhysbys hyd yn weddol ddiweddar. Rhestrwyd ef gan Charles Burney (1726-1814) fel rhan o gasgliad Aldrich,12 a gafwyd ym 1712 trwy gymynrodd Dr Henry Aldrich, cyn Ddeon Eglwys Grist ac Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen.13 Nid yw'n eglur sut y daeth y llyfr organ i ddwylo Aldrich, ond mae'n arwyddocaol ei fod yn gasglwr brwd o gerddoriaeth. Yn dilyn ei raddio o Goleg Crist, Rhydychen, fe'i penodwyd yn beriglor Wem, Sir Amwythig (er ei fod yn dal i fyw yn Rhydychen), ac efallai mai yn ystod ei gyfnod yn Wem y cafodd y llyfr organ nad oedd yn cael ei ddefnyddio erbyn hynny.14 Mae MS 6 yn gyfrol ffolio unionsyth sy'n mesur 16 modfedd gan 11 modfedd.15 Mae'n amlwg yn anghyflawn, a chanddi ddeugain dalen wedi eu rhifo [i], 1-24, 43-54, 56-58: mae'r cydiadau yn awgrymu y buasai yno drigain dalen yn wreiddiol, wedi eu trefnu yn ddeg grwp o chwe ffolio yr un.16 Mae'r llyfr yn cynnwys cyfeil- iannau organ ar gyfer pum gwasanaeth cyflawn ac un-ar-ddeg ar hugain o anthemau (mewn arddull lawn ac eilwers): mae'r rhain wedi eu copïo'n daclus yn llaw un copïwr gyda deuddeg erwydd chwe- llinell i bob tudalen. Cynhwysir repertoire corawl cysegredig safonol yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg (William Byrd,