Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teuluoedd Tebygrwydd: Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig ac Ymylnodau Eraill SARAH HILL Yn ei astudiaeth o gerddorion Sbaenaidd yn Los Angeles, dywed George Lipsitz: [in] many areas of cultural production, but especially in popular music, organic intellectuals within the Los Angeles Chicano community pursued a strategy of self-presentation that brought their unique and distinctive cultural traditions into the mainstream of mass popular culture. Neither assimilationist nor separatist, they played on 'families of resemblance' similarities to the experience and culture of other groups to fashion a 'unity of disunity'. In that way, they sought to make alliances with other groups by cultivating the ways in which their particular experiences spoke with special authority about the ideas and alienations felt by others. They used the techniques and sensibilities of postmodernism to build a 'historical bloc' of oppositional groups united in ideas and intentions if not experience. Mae teuluoedd tebygrwydd yn addysgiadol i'n dealltwriaeth (ganol- og) ni o'r argyfwng hunaniaeth a wynebir gan eraill ar y cyrion. Mewn diwylliant poblogaidd, eglurir i raddau y derminoleg holl- gynhwysfawr a ddefnyddir yn ami mewn ymgais i ddiffinio'r llu o ffurfiau cerddorol cymysgryw sy'n codi o'r hyn a elwir yn gyffredin yn 'gyflwr ôl-fodern' trwy edrych yn fwy manwl ar darddiad yr asiadau a'u gwreiddiau cyffredin, yn gerddorol a diwylliannol. Dywedir bod y cyflwr ôl-fodern yn galluogi cael pob math o arddulliau, diwylliant sy'n agored i bawb, canibaliaeth gyfeiriadol eironig, cyfuniadau di-ben-draw o symbolau ac arwyddion di- wylliannol wedi eu mabwysiadu a'u tynnu o'u cyd-destun i gyd oherwydd nad oes un prif naratif sylfaenol llywodraethol. Mewn theorïau ôl-fodernaidd ac ôl-drefedigaethol o ddiwylliant, y syniad o'r prif naratif yw'r cefndir i'r modd y mae diwylliannau a orfod- wyd i'r cyrion yn dathlu y 'decentred and polyglot nature of popular culture'2 a hyn sy'n creu'r asiad diwylliannol o ddisgyrsiau lleiafrifol