Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Home is living like a man on the run': Iwerydd Cymreig John Cale DAI GRIFFITHS 1 Rhagarweiniad I've no business being in rock and roll. I've said it over and over again that I'm a classical composer, dishevelling my musical personality by dabbling in rock and roll.1 Mae'r llinell hon o hunangofiant John Cale, What's Welsh for Zen?, yn rhoi awgrym o'r dryswch a'r amwysedd sydd wrth wraidd ei gynnyrch eithaf sylweddol erbyn hyn. Ar y naill law ceir ymdeimlad cryf o ddirmyg at roc a rôl, y gelfyddyd sydd, wedi'r cwbl, wedi ei gynnal am bron i ddeugain mlynedd; ond ar yr un pryd, ar y llaw arall, mae yna ffydd mewn unigoliaeth a hunan-fynegiant sydd naill ai'n rhyfeddol o hyderus a fyddech chi'n sôn am eich personol- iaeth gerddorol? neu, fel yr awgryma'r geiriau 'over and over again', ymdeimlad nad oes neb yn gwrando: arwydd o rywun sy'n byw, yng ngeiriau cân fawr obsesiynol Cale, 'down at the end of Lonely Street'.2 Mae rhai o bytiau bachog Cale yn swnio fel y math o beth a gaech gan rai o adar unig a phrepwyr y byd roc: Zappa, Costello, Lennon, Van Morrison. Mae Morrison yn Gelt arall sydd wedi atgoffa pawb mai ei ffordd ef o slymio yw cerddoriaeth bop: 'I personally don't have anything to do with rock, in any shape or form I just find it hard to be a so-called pop star. It conflicts with creativity.'3 Ymddengys fod Cale yn ymboeni llai am fasnach per se er ei fod ef a Morrison yn cadw'n glir o frig y siartau, ac wedi gorfod parhau i gynhyrchu ond drwy syniad mwy coeth a materol am gerddoriaeth glasurol. Mae'r ffaith na theimla Cale (neu Victor Bockris, ei olygydd) yr angen i roi dyfynodau yn unman yn yr ymadrodd 'classical composer' mewn llyfr a gyhoeddwyd ym 1999 yn dweud y cwbl fwy neu lai, ac yn dechrau ein cyfeirio ni i ffwrdd o'r pwynt syml am y gwahaniaeth rhwng cerddoriaeth bop sy'n ymwneud â chwarae mewn bandiau, a cherddoriaeth glasurol sy'n