Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YFfidler yng Nghymru'r Ddeunawfed Ganrif CASS MEURIG 1 Ycefhdir Y ddeunawfed ganrif oedd awr anterth y ffidil yng Nghymru. Yr oedd offerynnau bwa wedi bod yn boblogaidd yn y gymdeithas Gymreig ers cryn amser: yn ystod yr Oesoedd Canol yr oedd y crwth chwe-thant yn offeryn ac iddo statws y gallai ei chwaraewyr gorau ennill incwm diogel gan noddwyr dylanwadol. Chwaraeid amryw o offerynnau bwa eraill gan y glêr, gan gynnwys y ffidil ganoloesol, y rebec, a'r crwth tri-thant.1 Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd gan y dosbarthiadau uwch yng Nghymru fwy o ddiddordeb mewn dilyn ffasiynau Seisnig nag ymhél ag offerynnau brodorol a cherddoriaeth hynafol, ac edwinodd yr hen offerynnau. Yn eu lle, daeth offerynnau â chwmpasran ehangach a mwy o hyblygrwydd yn ffasiynol, megis y feiol ac yn ddiweddarach y ffidil; ceir nifer o gerddi cyfoes a gyfansoddwyd yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf y ddeunawfed yn gofyn i noddwyr roi feiol neu ffidil i gerddor arbennig. Mae'n aml yn aneglur pa offeryn y mae cerddi o'r fath yn cyfeirio ato, oherwydd yn Gymraeg gellir cyfnewid y termau crwth, ffidil (fìddle, violin) a feiol (viol), yn union fel y gallai 'ffidler' gyfeirio at chwaraewr unrhyw offeryn bwa. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd pennu'r union ddyddiad y daeth y ffidil yn ei ffurf Eidalaidd i Gymru; mae'n amhosibl gwybod, er enghraifft, pa offerynnau a chwaraeid gan rai 'ffidleriaid' y talodd y dyddiadurwr Robert Bulkeley (1597-1652) o Ddronwy, Môn, ddwy geiniog iddynt yn 1634.2 Mae'n eithaf tebygol gan fod y ffidil wedi ymledaenu cyn belled â Lloegr erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg, ei bod wedi cyrraedd Cymru rywbryd yn hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, lle bu'n cydfodoli am gyfnod gyda'r mathau hyn o ffidil, y crwth a'r feiol. Ond erbyn canol y ddeunawfed ganrif mae'r cyfeiriadau at y feiol yn diflannu ac ystyrid y crwth yn 'grair'