Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwy oedd 'Orpheus' Eisteddfod Llangollen 1858? MEREDYDD EVANS O'r pum eitem ar hugain a gyhoeddwyd yn rhifyn cyntaf Cylch- grawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1909, codwyd y deg cyntaf ohonynt o gasgliad o ganeuon ac alawon a gynullwyd ynghyd gan wr yn dwyn y ffugenw 'Orpheus';1 casgliad a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth yn eisteddfod Llangollen, 1858.2 Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth y casglwr alawon gwerin a llysieuegydd John Lloyd Williams yn agos at ddarganfod enw priod Orpheus ond ni lwyddodd i'w fodloni ei hun yn y pendraw ei fod ar y trywydd cywir. O ganlyniad, erys y dirgelwch hyd heddiw. Yn hanes casglu caneuon ac alawon gwerin Cymraeg mae i'r eisteddfod Ie pur anrhydeddus. Yn rhaglen eisteddfod daleithiol Cymdeithas Cymmrodorion Powys yn Y Trallwng yn 1824 'roedd cystadleuaeth am 'the best collection of old Welsh Tunes', heb gael eu cyhoeddi o'r blaen; y gystadleuaeth gyntaf o'i bath mewn unrhyw eisteddfod. Syniad John Jenkins, 'Ifor Ceri' (cerddor a hynaf- iaethydd) oedd hyn ac yntau hefyd oedd y beirniad. Dau gasgliad yn unig a ddaeth i law, y naill gan Aneurin Owen (mab y geiriadurwr William Owen Pughe), yn cynnwys 105 o geinciau, a'r llall gan John Gwynne, Darowen a oedd yn cynnwys 103 o alawon, gyda'r mwyaf- rif llethol ohonynt yn geinciau telyn; a nifer dda o'r rheiny wedi eu cyhoeddi eisoes. Dehonglwyd y gair 'tunes' yn llythrennol gan y cystadleuwyr ac ni cheir geiriau ar gyfer unrhyw gainc. Erbyn eisteddfod Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni yn 1837, 'roedd y cynhaeaf yn llawer mwy toreithiog a'r gystadleuaeth bryd hynny yn gofyn yn benodol am ganeuon y bobl: 'For the best collection of original unpublished Welsh airs, with the words as sung by the peasantry of Wales'. O'r gystadleuaeth hon, yn 1844, y daeth cyfrol nodedig y gantores a chasglydd alawon gwerin Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg,3 i'w dilyn yn 1845 gan gyfrol ddefnyddiol y bardd John Thomas, 'Ieuan Ddu',