Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tarddiad a Pharhad y Tonau i Emynau William Williams, 'Pantycelyn DAVID GOSDEN Cytunir yn gyffredinol y gellir priodoli egni a lledaeniad yr adfywiad mawr a gysylltid â Llangeitho yn Sir Aberteifi yn 1762, dan arweiniad y pregethwr Methodistaidd Daniel Rowland (1713-90), i gyhoeddi ar yr un pryd Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr, y pedwerydd casgliad o emynau Cymraeg gan yr emynydd mawr William Williams, 'Pantycelyn' (1717-91). Felly, yma y canol- bwyntiaf yr astudiaeth fer hon o alawon a thestunau. Wrth reswm, 'rwyf yn pwyso'n drwm ar awdurdodau ysgolheig- aidd megis Gomer Morgan Roberts, R. D. Griffith a J. Lloyd Jones.2 Tynnodd Roberts, yn ei astudiaeth feirniadol Y Pêr Ganiedydd, fy sylw drwy ei ddefnydd cyson o ymadroddion petrus wrth gyfeirio at gasgliad Pantycelyn mae'n bosibl mai'; 'ymddengys mai'; 'efallai'; 'yn ddiau'.3 Mae'n rhaid mai'r rheswm am hyn yw fod tystiolaeth ddogfennol am Bantycelyn yn brin: ni cheir unrhyw ddyddiaduron swmpus fel y rhai a adawyd gan sylfaenydd arall Methodistiaeth Cymru, Howel Harris (1714-73),4 ychydig o lythyrau sydd ar gael,5 a dim casgliad cyfoes o emyn-donau Cymreig.6 Mae'r casgliadau y daw Roberts iddynt, ac R. D. Griffith o'i flaen,1 yn pwyso ar un ffynhonnell yn unig: sef y cyplysu o enwau tonau i destunau emynau a geir yn argraffiad 1811 o weithiau barddonol Pantycelyn, Gweithiau Prydyddawl William Williams Pantycelyn, a gynhyrchwyd gan ei fab John.8 Awgrymir mai Williams Roberts (gynt o Gaerfyrddin) a ddewisodd y tonau ar gyfer John Williams neu a wasanaethodd fel rhyw fath o olygydd cerddorol.9 Un enghraifft o baru o'r math hwn yw'r emyn 'Cymmer Iesu fi fel ydwyf' a gyplyswyd â'r dôn Helmsley (gweler Enghraifft 9, t. 97). 10 Ceir amheuon am gasgliadau Roberts a Griffith na ellir eu trafod yn llawn yma, ond mae'n amlwg fod lle i ddyfalu ar sawl agwedd. Pan archwiliais gyntaf y mesurau a gyflwynodd Pantycelyn yn Môr o Wydr, teimlais eu bod yn gryn gymysgedd. Hoffwn ofyn un