Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cerddor: Cyfnodolyn y Werin DELYTH MORGANS Fe fu ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod cyn- hyrchiol yn hanes cyhoeddi cylchgronau cerddorol yn y Gymraeg. Wedi 28 mlynedd ers ymddangosiad Y Cerddor Cymreig, 'y cynyg cyntaf o bwys a wnaed i sefydlu cylchgrawn cerddorol',1 gwelodd cylchgrawn Y Cerddor olau dydd ar 1 Ionawr 1889. O'r cychwyn, bu dau olygydd y cyfansoddwr hunan-ddysgedig D. Emlyn Evans a'r gwr academaidd o Aberystwyth David Jenkins2 yn goruch- wilio'r gwaith o gyhoeddi. Serch hynny, William Morgan Roberts (1853-1923), o Langynog, Sir Drefaldwyn, oedd yn gweithio gyda chwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab ar y pryd, fu'r sbardun pennaf: Cyn terfynnu fy ngwaith fel Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1888, yr oeddwn wedi trefnu gyda Mri. Hughes a'i Fab i gychwyn misolyn cerddorol Cymreig, ac yn fuan wedyn trefnais gyda'r diweddar Mr. Emlyn Evans, ac yn ddilynol gyda Mr. David Jenkins, i ddarparu erthyglau, &c., a rhyngom i gario allan y syniad o ddarparu misolyn cerddorol i Gymru.3 Troedio'r llwybr canol oedd dymuniad y golygyddion, a'u harwyddair oedd 'nid gwasanaethu na pherson na phlaid, De na Gogledd, Hen Nodiant na Sol-ffa yn arbennig, ond Cerddoriaeth Gymreig yn gyffredinol’.4 O ganlyniad apeliodd Y Cerddor at gynulleidfa eang trwy gwmpasu sawl agwedd ar gerddoriaeth yng Nghymru; awgryma Gareth Williams mai cyfuniad neu grynhoad o nodweddion cylchgronau blaenorol fu'n sail i'r cylchgrawn hwn.5 Saith elfen neu 'gynhwysyn' roddwyd yn Y Cerddor, sef erthyglau, bywgraffiadau, gwersi, adroddiadau neu hanesion, beirniadaethau ac adolygiadau, barddoniaeth ac atodiadau cerddorol. Bwriad y golygyddion oedd cynhyrchu cyfnodolyn 'a fyddo 0 anrhydedd i'r genedl', a gwnelent hynny 'fel mater o ddyledswydd fel llafur o gariad'.6 Eu dymuniad oedd ennyn diddordeb mewn astudio cerddoriaeth a darllen cyffredinol: