Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Yn y Fro': Mudiad Adfer a'r Canu Pop Cymraeg yn ystod y 1970au PWYLL AP SION Un o'r pethau pwysicaf ynglyn ag Adfer yw ei fod yn mynd i ryddhau egni creadigol y bobl Gymreig. Dychwel, dychwel, fy mrawd, i wladychu/ o nos y brifddinas2 Tyrd i chwilio am y golau hyfryd/ Yn y Gorllewin3 Bwriad yr erthygl hon yw darparu cyd-destun ar gyfer datblygiad canu roc Cymraeg yn ystod y 1970au, ynghyd â chraffu ar rai o themâu geiriol a cherddorol y caneuon. Fe wneir hyn yn bennaf drwy fesur dylanwad sefydliadau cenedlaetholaidd ar y diwylliant pop, gan ganolbwyntio'n bennaf ar Fudiad Adfer. Fe ddaeth y mudiad hwn i'r amlwg ar ddechrau'r saithdegau, yn ystod cyfnod cyffrous a chyfnewidiol iawn yn hanes Cymru. Ond er mwyn deall digwyddiadau'r saithdegau rhaid edrych yn gyntaf ar effaith blynyddoedd y chwedegau arnynt. Yn ystod y chwedegau fe ddeffrowyd ysbryd ac awydd newydd i sefyll dros hawliau'r iaith a threftadaeth y Gymraeg ymhlith cenhedlaeth newydd o Gymry ifanc. Esgorodd yr adfywiad hwn ar newidiadau gwleidyddol, cyfreithiol a chymdeithasol sylfaenol a phellgyrhaeddol ar gyfer Cymru. Chwaraeodd gweithredoedd a phrotestiadau mudiadau megis Cymdeithas yr Iaith ac yn nes ymlaen, Mudiad Adfer, ran bwysig yn y newidiadau, ac ar yr un pryd fe ddylanwadodd ymgyrchoedd y mudiadau cenedlgarol hyn ar agweddau gwahanol o fewn y diwylliant Cymraeg. Un cyfrwng a dderbyniodd fynegiant grymus o ganlyniad i effaith y newidiadau oedd canu pop Cymraeg. Stori ddiwylliannol bwysig sy'n perthyn i ddiwedd y chwedegau yw'r modd yr amlygwyd safbwyntiau gwleidyddol, ieithyddol a gwladgarol mewn canu pop ysgafn Cymraeg. Erbyn 1969, fe allai T. James Jones ddatgan yn hyderus: '[nad] canu i ddiddanu yn unig y mae sêr y byd pop yng Nghymru