Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyffelybiaeth rhwng Cerddoriaeth Pibroch Albanaidd a Cherddoriaeth Gynnar Gymreig i'r Delyn FRANS BUISMAN Mae'r erthygl hon yn trafod tebygrwydd yn y gyfundrefn addurniadau a geir yn amrywiadau safonol y pibroch Albanaidd math arbennig o gerddoriaeth pibgod a gyfansoddwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed, yn bennaf ar gyfer achlysuron seremonïol a'r tabl o ffigyrau addurniadol a restrir gan Robert ap Huw yn ei lawysgrif o gerddoriaeth Gymreig i'r delyn dyddiedig c.1613.1 Dangosir bod yr amrywiadau pibroch Albanaidd a dulliau addurno'r delyn Gymreig, sef crafiad a phlethiad, yn rhannu'r un gwrthwynebiad deublyg. Yr hyn sy'n peri i ni gredu bod cysylltiad hanesyddol rhwng y ddwy gyfundrefn yw'r posibilrwydd y gellir cysylltu'r pibroch gyda cherddoriaeth ar gyfer y delyn dannau-gwifren Wyddelig-Albanaidd neu'r cláirseach (Gwyddeleg, clàrsach). Y mae pibroch Albanaidd yn wir yn benthyca nifer o dermau o'r cyfryw gerddoriaeth, ac un ohonynt yw le[i]th- leagadh (leagadh 'unochrog'). Mae'r ffigyrau leagadh Gwyddelig yn gweddu i'r gyfundrefn Gymreig, ac y mae cyfuniad systemaidd o ffigyrau Robert ap Huw gyda'r rhai a geir yn Ancient Music of Ireland Edward Bunting, a ffurfiwyd fwy na dwy ganrif yn ddiweddarach, yn datgelu llawer o nodweddion tebyg.2 Fodd bynnag, mae'r ffigyrau pibroch yn sylfaenol wahanol i'r ffurfiau Cymreig a Gwyddelig gan fod eu nodau ategol yn sefydlog yn hytrach na'u bod yn newid gydag amlinelliad yr alaw. Cyfyd y gwahan- iaeth hwn o'r ffaith fod yr offeryn y cyfansoddwyd y pibroch ar ei gyfer pibgodau'r Ucheldiroedd wedi ei osod â grwniau. I gyfansoddwyr pibroch, mae'n amlwg nad rhyw fantais ddibwys oedd y grwniau, ond rhywbeth oedd yn eu galluogi i ddatblygu dyfeisiadau cerddorol hollol newydd, neu roi gwedd hollol newydd ar hen ddyfeisiadau. Ac felly mae'r achos a wneir yma, tra'n sefydlu cysylltiadau hanesyddol posibl rhwng y repertories, hefyd yn ein rhybuddio na ddylem fyth disgwyl cyd-ddigwyddiadau manwl wrth chwilio am gysylltiadau rhwng cerdd- oriaeth pibroch a'r delyn.