Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau ar Lawysgrif Robert ap Huw DANIEL HUWS Daw'r nodiadau hyn mewn tair rhan. Yn y gyntaf fe gynigir rhyw fanylu ar yr hyn a ddywedir gan Stephen Rees a Sally Harper yn eu disgrifiad o lawysgrif Robert ap Huw am yr ychwanegiadau sy'n tarddu o'r ddeu- nawfed ganrif;1 mae'r ail ran yn cynnig dadansoddiad o blygiant y llawysgrif; mae'r drydedd yn crynhoi'r hyn sy'n hysbys am lawysgrifau eraill o gerddoriaeth seciwlar Gymreig cym 1700 a oroesodd i gyfnod yr hynafiaethwyr. 1 Ychwanegiadau o'r ddeunawfed ganrif Dechreuad gwael fu i drafodaeth yr ychwanegiadau hyn trwy i Henry Lewis, yn ei ragymadrodd i argraffiad ffacsimile 1936, gymryd yn gan- iataol mai Lewis Morris a'u gwnaeth i gyd.2 Mae Henry Lewis, ar dd. ix-x, yn rhestru'r prif ychwanegiadau, gan eu rhifo 1-15. Yma, er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, dilynwn y rhifau hyn. 1-3: Dau destun byr a darlun o delyn arian Mostyn. Yn llaw Richard Morris y mae'r tri. Ni fu Richard Morris erioed ym Mostyn na Gloddaith. Rhaid bod y tair eitem hon wedi'u copîo'n ail-law, os nad trwy gyfrwng mwy o gopïau, nid cym 1748 ac, yn ôl pob tebyg, yn ddiweddarach na 1766 (gweler isod). Mae testunau 1 a 2 yn ymddangos, mewn llaw anhysbys, ymhlith papurau Lewis Morris yn AB MS 21300D, tt. 25-8. Y tebyg yw mai'r rhain oedd ffynhonnell union- gyrchol Richard Morris. 4: Y dudalen deitl, yn llaw Lewis Morris, wedi'i ysgrifennu, mae'n debyg, tuag adeg trefnu rhwymo'r llawysgrif ym 1742. 5: Am yn hir mi gymerais mai perchennog y llaw a ysgrifennodd y rhestr gynnwys ar dd. 1-2, y tudaleniad mewn coch,3 a hefyd y nodyn tra gwerthfawr ar d. 22, llaw a allwn at bwrpas trafodaeth alw yn llaw 'X', oedd rhyw ragflaenydd i Lewis Morris. Ni allai neb nad oedd yn