Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae grwp cyntaf y caniadau a'r ail, ond am ddau ddarn ym mhob grwp, yn wahanol o ran arddull. Oni bai am y pedwar caniad 'eithriadol' hyn,3 gellid dweud bod y llawysgrif yn dangos cynnydd mewn arddull o iaith harmonig syml a hawdd ei rhagweld i un fwy cymhleth o lawer, gyda'r grwp o brofiadau yn nodi'r trobwynt rhwng y ddau. Mae cynnydd o'r fath yn awgrymu mai bwriad Robert ap Huw oedd gwneud y llawysgrif yn fwy dealladwy i rywun fuasai y tu allan i'r traddodiad cerddorol hwn. Tybed, fodd bynnag, pam yr arhosodd tan d. 35 i gynnwys y diagram nodiant, sydd yn hanfodol i ddeall y tablun yn llawn. 1 Lliwiau'rlnc O archwilio gwahanol liwiau'r inc yn rhan Robert ap Huw o'r llawysgrif mae modd cadarnhau yn fras y sylw am y rhaniadau, ond y mae peth gorgyffwrdd sy'n cymhlethu pethau, braidd. Gellir canfod chwech gwahanol liw inc i gyd, ac y mae rhai wedi pylu mwy nac eraill. (i) Mae rhifau'r tudalennau ar frig pob tudalen yn y canol mewn coch, ac mae'n debyg mai gwaith Lewis Morris ydynt, oedd yn berchen y llaw- ysgrif yn y ddeunawfed ganrif, gan y ceir y lliw hwn mewn rhannau o ffrâm a theitl ('Cynhwysiad y Llyfr Hwn') y dudalen gynnwys (t. 1) sydd yn ei lawysgrifen ef. (ii) Mae'r rhaniad gosteg (tt. 15-22) mewn inc brownddu sy'n tywyllu rywfaint tua diwedd y rhaniad, ac nid yw'n digwydd eto yn y llawysgrif. Ceir newid bychan ond nid sylfaenol (pot newydd o inc?) ar d. 20,4 a all daflu peth goleuni ar y drefn o ysgrifennu: mae Robert ap Huw yn ysgrifennu wyth yn fwy o golofnau yn y rhan uchaf nac yn yr isaf cyn iddo newid inc. (iii) Mae'r rhaniad clymau cytgerdd mewn inc du tywyll nodweddiadol iawn (bron yn lliw inc Indiaidd), wedi ei wneud mewn nib fymryn yn feinach na gweddill y testun. Mae hyn yn parhau hyd at y rhannau hynny o'r diagram ar d. 35 a ysgrifennwyd gan Robert ap Huw,5 ac yn rhyfedd iawn, hyd at 16 golofn gyntaf 'Caniad y Gwyn Bibydd' ar d. 36. Yr inc hwn a ddefnyddir hefyd ar gyfer (a) y testun ar dd. 105-7, sy'n cynnwys y nodyn: 'hyny sydd gan i Robert ap Huw o ddifre wedi prikio'; (b) rhestr y caniadau dan y pennawd 'Henwau bagad o ganiadau sydd gennyf gwedi i prikio yn y llyfr yma ag mewn llyfr arall hefyd'; ac (c) rhestr y 24 mesur gyda'u nodiant digidol. Gall yr olaf hwn fod yn arwyddocaol, oherwydd ymddengys yr un rhestr ar ffurf anghyflawn uwchben darnau cwlwm cytgerdd cyntaf y rhaniad. (iv) Defnyddir inc du, heb fod mor fain nac mor ddu â'r rhaniad cwlwm cytgerdd a heb fod mor frown â'r rhaniad gosteg, ar gyfer rhaniad cyntaf y caniadau, o d. 36, col. 17 i d. 55.