Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hela'r Dryw PHYLLIS KINNEY Ymddengys bod i 'hela'r dryw', arferiad a ddigwyddai fel rhan o ddath- liadau heuldro'r gaeaf, draddodiad maith ym Mhrydain.1 Dichon mai'r cyfeiriad cyntaf at yr arferiad yw pennill yn Llyfr Coch Hergest, tua 1382-1410, lle disgrifia'r bardd daro dryw gyda charreg a'i frifo'n arw.2 Ar wahân i hynny, Edward Lhuyd, yr ysgolhaig a'r hynafiaethydd o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, sy'n rhoi'r disgrifiad cynharaf o hela'r dryw: Arverant yn swydh Benfro &c. dhwyn driw mewn elor nos ystwylh; odhiwrth gwr Ivank at i Gariad, sef day nae dri ai dygant mewn elor a ribane; ag a ganant gorolion. Ant hevyd i day ereilh lhe ni bo kariadon a bydh kwrw v. &c. A elor o'r wlad ai galwant Kwlli [Kwtti] wran.3 Prif nodweddion ei ddisgrifiad ef yw'r ardal: Sir Benfro; yr amser: Nos Ystwyll (5 Ionawr); y sawl sy'n cymryd rhan: gwyr ifainc yn cludo dryw mewn elor wedi ei addurno â rhubanau; y canu; a'r cwrw. Ceir awgrym hefyd o arferion ffrwythlondeb. Yn Sir Benfro yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd yr orymdaith yn Ninbych y Pysgod yn cyn- nwys ty-dryw addurnedig wedi'i osod ar bolion a gludwyd gan bedwar o ddynion, yn canu wrth orymdeithio a chymryd arnynt riddfan dan bwysau trwm eu baich bychan. Ym Marloes, byddai'r ty-dryw yn cael ei gludo mewn gorymdaith ar Ddydd Gŵyl Ystwyll. Er bod caneuon hela'r dryw i'w cael mewn rhannau eraill o Gymru, nid oes disgrifiadau manwl o'r arferiad y tu allan i Sir Benfro a'r cyffin- iau. Dros ganrif yn ddiweddarach, nododd y Parchedig John Jenkins ('Ifor Ceri', 1770-1829) ddwy alaw oedd yn gysylltiedig â hela'r dryw (Alawon 1-2; gweler tt. 114-18 a 127-8 ar gyfer yr holl enghreifftiau cerddorol). Disgrifiodd y ddefod fel a ganlyn: In the Vicinity of Cardigan the following Singular Custom prevails and which is probably of Druidical origin: On the Night of the Fifth of