Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diddanwch Teuluaidd ymysg Salsbriaid Lleweni a'u Cylch, 1595-1641 DAVID KLAUSNER Prif ganolbwynt yr erthygl hon yw gyrfa Syr Thomas Salusbury o Leweni (1612-43) fel dramodydd. Prin y rhoddwyd sylw o gwbl i Syr Thomas yn y maes hwn; mae'r nodyn bywgraffyddol mwyaf diweddar, yn y Bywgraffiadur Cymreig, yn dyfynnu Anthony Wood, sy'n disgrifio Salusbury fel 'a most noted poet of his time'.1 A'r bywgraffiadur ymlaen, fodd bynnag, i hawlio mai'r 'unig waith o'i eiddo sydd wedi goroesi yw The History of Joseph, a poem (London, 1636)'.2 Tra'i bod yn sicr mai The History of Joseph yw'r unig waith o eiddo Salusbury i gael ei gyhoeddi yn ystod ei fywyd, mae cryn gorff o waith dramatig, dramâu a thestunau masciau, hefyd wedi goroesi mewn llawysgrif. Preifat ac achlysurol oedd y diddanion hyn yn bennaf, wedi eu cyfan- soddi i'w perfformio ar yr aelwyd ac yn nhai ei gyfeillion a'i gydnabod a hefyd er mai prinnach fyth yw'r dystiolaeth yma ar ei aelwyd ei hun. Mae tri phen i'm pregeth. Yn gyntaf, archwiliad byr o yrfa Syr Thomas Salusbury a'r ddau gyfaill y cyfansoddodd y masciau sydd wedi goroesi ar eu cyfer; yn ail, y dystiolaeth sydd wedi goroesi am yr union sefyllfaoedd lle perfformiwyd y masciau hyn; yn drydydd, archwiliad manwl o destunau'r masciau eu hunain, yn ogystal ag (yn fwy cryno) y sawl gymerodd ran yn y masciau, i'r graddau y gellir eu henwi. Mab oedd Syr Thomas i Syr Hugh Salusbury, y barwnig cyntaf a'i wraig Hester, merch y Syr Thomas Myddelton cyntaf, y byddwn yn troi at ei deulu mewn ennyd. Matriciwleiddiodd Syr Thomas Salusbury yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ond gadawodd i fynd i'r Deml Fewnol ym 1631. Anghyflawn hefyd fu ei astudiaethau yn y gyfraith, gan i'w dad farw ym mis Gorffennaf 1632 ac i Thomas ddychwelyd i Sir Ddinbych i weinyddu stâd Lleweni. Cymerodd ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth leol fel bwrdeisiwr etholedig (o 1632) a henadur (1634-8, 1639) dros dref Dinbych, ac Aelod Seneddol dros y sir o 1640 tan ei farwolaeth ym 1643. Yr oedd yn Frenhinwr rhonc, a hwyrach iddo ymladd ym Mrwydr Edgehill ar 23 Hydref 1642. Y flwyddyn honno, derbyniodd