Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes a Datblygiad Canu Gyda'r Tannau MEREDYDD EVANS a PHYLLIS KINNEY Ym Mis Mai, 1973, traddodwyd darlith gan Dr Osian Ellis i Anrhydedd- us Gymdeithas y Cymmrodorion ar y testun 'Welsh Music: History and Fancy' a chyhoeddwyd hi yn Nhrafodion y Gymdeithas honno ym 1974.1 Chwe mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd llyfr ganddo, Hanes y Delyn yng Nghymru.2 Yn y ddau waith fel ei gilydd fe'i ceir yn trafod agweddau ar hanes cerdd dant. Bwriad hyn o ysgrif yw ystyried rhai o'i sylwadau ar y pwnc neilltuol hwnnw.3 Noder ar unwaith i'w gyfraniad fod yn un pwysig a gwerthfawr. Cyflwynodd i ni ddisgrifiad clir o nod-weddion canu gyda'r tannau yn y ddeunawfed ganrif, yn ôl ei ddarlleniad ef o'r dystiolaeth a gasglodd, gan ei gwneud yn bosib, felly, i eraill ymateb yn feirniadol ac adeiladol i' w safbwynt. Ag yntau un diwrnod yn chwilota yn Llyfrgell Parry, Y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, daeth i'w law, trwy ddamwain ffodus, lawysgrif a berthynai i Ifan Wiliam, cynorthwywr John Parry, Rhiwabon, a gyhoeddodd y casgliad cyflawn cyntaf o alawon Cymreig, Antient British Music (1742).4 Ymddengys ei fod ym mwriad y ddau hefyd, ar un adeg, i ddarparu ail gasgliad o alawon ar gyfer ei gyhoeddi ym 1745 (er na welodd hwnnw olau dydd ysywaeth) a buont yn ddigon hyderus i hysbysebu hynny ymlaen llaw a threfnu bod Ifan Wiliam yn paratoi 'specimen' o'r casgliad arfaethedig. Dyma'r llawysgrif a ddarganfuwyd gan Dr Ellis. Wedi iddo'i hystyried yn fanwl casglodd ei bod 'yn bwysig ac yn arwyddocaol oherwydd ei bod yn rhoi inni am y tro cyntaf ddarlun eglur o ddulliau canu ym 1745, ac yn peri peth syndod inni wrth ddat- guddio arddull a chefndir canu penillion yr adeg honno'.5 Yn wir, yn ei ddarlith i'r Cymmrodorion aeth mor bell â honni fod y llawysgrif yn rhoi golwg clir ar darddiad canu penillion.6 Beth ynteu a ddengys y llaw- ysgrif i ni? Gellir crynhoi'r hanfodion fel hyn: (i) Nid yw'r datgeiniad yn cychwyn canu gyda'r alaw. Yn ôl hyd ei bennill daw i mewn wedi i'r telynor chwarae rhywfaint o'r gainc. Rhaid i'r ddau gyd-ddiweddu.