Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Benjamin Parry, Cyhoeddwr Cerddoriaeth RHIDIAN GRIFFITHS Yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ugeinfed, cyrhaeddodd gweithgarwch cerddorol Cymru binacl newydd. Datblygodd yr eisteddfod, ar lefel leol a chenedlaethol, i fod yn wyl gerddorol yn ogystal ag yn ŵyl lenyddol, ffynnodd canu corawl a chynulleidfaol, a chododd to o gyfansoddwyr brodorol Cymreig, gyda Joseph Parry yn frenin yn eu plith. Esgorodd y gweithgarwch cerddorol ar doreth o gynnyrch printiedig a ddaeth o law'r cyfansoddwyr hyn, a welai eu cyfle i ddiwallu anghenion y boblogaeth gerddorol a hefyd i sicrhau rhyw gyfran o anfarwoldeb iddynt eu hunain trwy gael eu hen- wau mewn print ar ddarn o gerddoriaeth. Yn sgil hyn, sefydlwyd nifer o dai cyhoeddi a oedd yn fodlon ymgymryd â chyhoeddi cerddoriaeth Gymreig i fwydo anghenion eisteddfod a chymanfa ganu. Siopau ar- graffu oedd y tai hyn yn bennaf, ac nid oedd cerddoriaeth ond yn un agwedd ar eu gweithgarwch; ond gwnaeth nifer ohonynt gyfraniad cyson a gwerthfawr i fywyd cerddorol eu cyfnod. Un o'r cyhoeddwyr hyn oedd Benjamin Parry. Er mai ag Abertawe y cysylltir ef yn bennaf, a chyfeiriad Abertawe a welir ar ei gynnyrch yn ddieithriad, nid un o'r de oedd Parry. Fe'i i ganed yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ym 1835 neu 1836, a thybir mai yno y dysgodd grefft argraffu. Yr oedd yn adnabod yr argraffydd William Morris, a argraffodd y papur newydd eglwysig, Y Cymro, yn Nhreffynnon rhwng 1851 ac 1854, ac mae'n bosibl ei fod yn brentis iddo.2 Yn ddyn ifanc, ac yn sicr cyn 1857, yr oedd Parry wedi troi ei olygon tua'r gorllewin ac wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau, Ue y bu'n argraffu papur newydd Cymry America, Y Drych, rhwng tua 1857 ac 1860. Gellir tybio i'r profiad hwn fod yn un gwerthfawr iawn iddo: yr oedd cylchrediad Y Drych yn sylweddol, a nod y papur oedd 'adlewyrchu y meddwl Cymreig', gan gyhoeddi hysbysebion i lyfrau Cymraeg a ymddangosai yn yr hen wlad a'r newydd. Yn swyddfa'r papur gwerthid llyfrau newydd a fewnforiwyd o Gymru, a hwyrach fod