Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'BeatboxTaffiay: Cerddoriaeth Danddaearol Gymraeg yn y 1990au CRAIG OWEN JONES Mae'r ffaith bod yr iaith Gymraeg wedi goroesi i'r unfed ganrif ar hugain yn dipyn o gamp. Llwyddodd i oroesi yn unig drwy ailfeddwl yn radicalaidd am ddull ei lledaenu. Lleiafrif bellach sydd yn siarad yr leithwedd mwy traddodiadol sy'n cael ei ffafrio gan y genhedlaeth hyn, sy'n cadw'r rhan fwyaf o'r ffurfiau a'r arferion sy'n unigryw i'r Gymraeg, ac sydd yn cynnwys ond ychydig o eiriau benthyg o'r Saes- neg. Yn ei He, daeth ffurf mwy llafar, un y cyfeiriodd Simon Brooks ati fel 'acen ifanc; yr unig acen Gymraeg sy'n ffynnu'.2 Y dafodiaith Gymraeg hon yw'r un a ddefnyddir yn gyffredin gan y mwyafrif os nad y cyfan o fandiau roc Cymraeg sy'n bodoli heddiw. Mae'n defnyddio ffurfiau talfyredig yn ogystal â nifer fawr o eiriau benthyg o'r Saesneg ac md yw felly hanner mor 'bur' neu 'gywir' ag y dymunai llawer. Fodd bynnag, o'i chymharu â'r ieithoedd Celtaidd eraill megis y Gernyweg Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban, daw'n amlwg fod y Gymraeg yn lled- dda ei byd, a bod gweithredu grymus gwahanol grwpiau o ymgyrchwyr iaith yng Nghymru ers canol y 1960au wedi gwneud cyfraniad cadarn- haol i statws presennol yr iaith. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynnydd anhygoel yn statws y bandiau roc sy'n dod o Gymru ac yn canu yn y Gymraeg. Mae'n sicr fod proffil uwch yr iaith a grëwyd gan yr ymgyrchwyr iaith, ac a ddilyswyd gan ffigyrau blaenllaw megis Gwynfor Evans, yn un ffactor allweddol yn y datblygiad hwn. Ffactor arall yw'r twf yn nifer y siarad- wyr Cymraeg, fel y gwelir o ffigyrau Cyfrifiad 2001.3 Ffactor arall o bwys, yn sicr, oedd twf y 'Pump Mawr'4 o blith bandiau Cymreig gan gynnwys y Manic Street Preachers, Catatonia, Gorky's Zygotic Mynci Stereophonics, a'r Super Furry Animals, a lwyddodd i gyrraedd y siartiau o ganol y 1990au ymlaen. Fodd bynnag, hwyrach mai'r elfen bwysicaf yn natblygiad grwpiau newydd fu sefydlu llawer o gwmnïau recordio newydd Ym 1988 torrwyd gafael Recordiau Sain dros y farchnad Gymraeg ers y