Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saif palasdy yr Hafod ar ochr bryn ychydig uwch law yr afon Ystwyth, a thua pedair milldir ar ddeg o dref Aberystwyth. Lie digon anghysbell ydyw, rhwng bryniau gogledd-dwyrain Ceredigion, ond drwy gyfuniad Natur a chelf y mae y lie mwyaf araul yn yr holl Dy- wysogaeth. Ni fuasid yn disgwyl cael palas mor hardd mewn man mor anghyfanedd, ond unwaith eir i olwg y lie tarewir ni ar unwaith a syndod; brydferthed yw y golygfeydd cylehynol. Os telir ymweliad a'r fangre yn yr haf, y mae telynorion trylawen y wig yn cyd-blethu eu tanau nefol-ber dan gysgodion blodeuog yr eurlwyni, a mawl yn ymarllwys yn llifeiriol o'u cerdd. Yma ceir rhamant ar ei huchel-fan. Y mae yr olwg ar ddyffryn tlws Cwm Ystwyth yn awr yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd pan dalodd yr hynafieithydd Leland, yn ei bererindodau drwy Gymru, ymweliad a'r gymydogaeth hon yn ystod teyrnasiad Harri'r VIII.fed. Dyma ddywed Leland yn ei "Itinery" Or I cam to Meleven and I hd riden bi the space of a iii Miles in Comeustwith. About the middle of this Wastwith Botom that I rydde yn being as I gesse a iii Miles in lenght I saw on the right hand a Hille side Cloth- omoyne, wher hath been greate digging for Leade, the melting whereof hath destroyed the Woddes that sumtime grew blentifulli thereabout." Pe gwelsai Leland y Cwm yn bresenol y mae yn llawn o goed preiffion a thalgryf, yr hyn sydd i'w briodolli i haelfrydigrwydd teulu yr Hafod, fel y cawn sylwi eto. Yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r un ganlynol, yr oedd Cwm Ystwyth yn lie nodedig am ladron penffordd, ac ni feiddiai ond y dewr fyned yn agos iddo. Blodeuai Twm Shon Catti rhwng 1590 a 1630, a dywedir y byddai arferol o dalu ymweliadau mynych a Chwm Ystwyth. Yn mhen tua chanrif a haner yn ddiweddarach yr oedd plant "Matt." yn ddychryn i'r holl ardal. Ymosodid ar y teithwyr ac ysbeilid hwynt o'r oil a feddent; yn ami ni ddiangent heb golli eu bywydau. Nid rhyfedd gan hyny i George Owain, Henllys,* yn 1594, fyned ar ei liniau a diolch i'w Dad am ei ddiogelu rhag bleiddiaid Cwm Ystwyth tra ar neges yn y gymydogaeth dros y Llywodraeth. Ac mewn amseroedd mwy diweddar ni fu "bleiddiaid" Cwm Ystwyth yn hollol ddinod. Arddengys y gair "hafod" i'r lie fod yn drigfa pobl yn foreu iawn. Arweinia y gair ni yno ol at gyfnod yn hanes yr hen Gymry pan oedd- ynt eto yn llwythau crwydrol yn symud yn ol a blaen drwy y cwmwd neu'r cantref. Cyfarfyddir yn ami a'r enw "Hafod" ar hyd a lied ein gwlad, megis, Hafod Hir, Hafod-y-Gors, Hen Hafod, etc. Ei ystyr ydyw "ty haf" — summer residence; y ty neu y fan lie y trigai ein hynafiaid yn ystod tymor yr haf. Yr adeg hono o'r flwyddyn gadawent y gwastadedd, a chan gymeryd eu hanifeiliaid ganddynt, elent i bres- wylio ar y bryniau yn yr "hafod-dy." Ar ddynesiad y gauaf drachefn o The Dialogue of the Government of Wales," by George Owain, of Henllys, Pem- brokeshire, written in 1594. I was putte in greate feare how I should pass the Upper parte of Cardiganshire for it was told me that I must pass a place called Coomystwyth, where many peeves that lyved as outlawes, and some not outlawed indeed, made their abode, and that t&ey hved by openn Robbyiage, &c."