Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAI 0 OLION HYNAFIAETHOL PLWYF LLANDDEWI BREFI. Credaf mai ychydig yw y lleoedd yng Nghymru ag y ceir cynifer o olion hynafiaethol gwahanol gyfnodau yn hanes ein gwlad a'n cenedl, o'r cynhanesiol hyd y dyddiau hyn, mewn cylch mor agos i'w gilydd ag a geir yn y plwyf hwn. Gallwn feddwl fod hyny yn fantais neullduol i'r hynafiaethydd er gwneyd i'r olion hyn lefaru hanes canrifoedd a aethant heibio. Ni cheisiaf ddamcaniaethu uwcli ben y gwahanol olion na dyfynnu chwaith beth y mae eraill wedi ddweyd am rai o honynt; ac mae hefyd yn ffaith fod y rhan fwyaf o honynt hyd yn hyn heb eu harchwilio ac, felly, heb ddweyd eu cyfrinion wrth neb; ac er mwyn cael ychwaneg o fanylion i'AV gosod ger bron fy nghyd-aelodau penderfynais i yng nghyd a dau aelod arall o'r Gymdeithas fynd i roi tro am rai o'r hen olion hynafiaethol y bu'm yn chwareu o'u ham- gylch wrth fugeilio defaid yn y dyddiau gynt. Cychwynwyd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 20fed, yng nghwmni S. M. Powell, M.A., a D. J. Morgan, B.Sc., y cyntaf yn athraw ieithoedd a hanes, a'r Hall mewn gwyddoniaeth, yn Ysgol Ganolraddol Tregaron. Y nod cyntaf i gyraedd oedd Oarn Pen-bryn-rhudd (dyma syllebiaeth mapiau'r Ordinance Sur- rey); golygai hyny daith o tua thair milldir ynghyd a chodiad yn y tir o ragor na mil o droedfeddi. Yr oedd fy nghwmpeini yn ddynion ieuainc, milgiaidd a heinif, ac 'roedd yn rhaid i minnau gario llawer blwyddyn yn fwy na hwy ar fy ysgwyddau ac, hefyd, at hyny, ragor na deg pwys ar hugain o glai; felly, gwel y daiilenydd fy mod dan anfantais a dweyd y lleiaf. Ond rhyfedd beth wna dyn yn ei elfen, ys dywedai 'r hen bobl; dyn yn dilyn ei anianawd a wna i ffwrdd ar unwaith ag ugain mlynedd o'i oedran. Cyn pen awr a haner cawsom ein hunain yn dringo copa uchaf y mynydd drwy'r eira gwyn a arosai ar ei lechweddau serth. Yr oedd y ddau athraw yn ddyddorol gwmni: gwyddai y naill am flwyddyn marwolaeth hen dywysogion ac arwyr Cymru yn llaAAn cystal ac y gwyddom ninnau am flwyddyn marwolaeth fy nhadcu gwelai y Hall brydferthwch mawr yn ffurfiad y gronynau eira a phethau eraill; tebyg yw na welsai gymaint prydferthwch yn- ddynt pe yno yn gwylio'r praidd rhag eu cuddio gan yr eira lluchiedig. Ond bellach dyma ni ar faes ein hymchwiliad; yr oedd pob bryn a chors o amgylch yn dwyn atgofion dyddorol i mi, ond nid i gofnodi nac i ddweyd pethau felly yr ymwelwyd a chopa Bryn-Rhudd y boreu hwn. Ar gopa uchaf y mynydd mae earn o gerryg Hwydion garw, heb un- rhyw fath o unffurfiaeth ynddynt mewn Hun na maintioli, ac ambell i garreg wen yn eu plith. Mae'r fan y saif y garn arno tua 1574 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor mae'r garn o ran ei maintioli tua 128 o latheni cubaidd, neu 128 o lwythi o gerryg yr hyn fyddai amcangyfrif amaethwr o'i maintioli. Gwelem lawer earn o'i bath o'r fan He safem, megis Y Crug, Y Garn, Carn-Graig-Dwrch, Garn-Felen a r Garn Gron. Wrth edrych ar y carneddau hyn fel safleoedd arsyll- faol i ddibenion neullduol, yr hyn a'n tarawai oedd agosrwydd y garn