Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae Cymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi wedi dechreu ar ei gwaith o ddifrif, a disgwyliwn ei gweled yn esgyn o ris i ris mewn dylanwad a defnyddioldeb. Eglur yw fod yna faes, eang, amrywiol a thoreithiog o'i blaen. Y mae y Sir yn gyfoethog mewn olion hynafi- aethol. Gwaith y Gymdeithas fydd dysgu eu hiaith, er cael ganddynt i ddadguddio cyfrinach y dyddiau gynt. Argyhoeddir y Cymro yn fwy yn barhaus fod yna hanes a nod- weddion yn perthyn iddo-hanes ag y gall edrych yn ol gyda hyfryd- wch a balchder arno. Yn y gorphenol, yn dra unochrog, yr ymdrini- wyd a Hanes Cymru gan haneswyr Seisnig. Mewn blynyddoedd di- weddaraf y mae ysgolheigion Cymreig medrus wedi bod yn talu sylw manwl i hanesion eu gwlad, ac wedi dwyn i lygad goleuni lawer o bethau oedd yn flaenorol yn guddiedig oddiwrth y mwyafrif o'r Cymry. Y mae cynydd addysg, yn elfenol ac yn uAvchraddol, yn peri i'r do ieuainc ddyheu am wybod rhagor o hanes eu gwlad; nid yn unig o amser dyfodiad y Rhufeiniaid, ond hefyd am y gorphenol pell, pan oedd ein hynys eto heb ei gwahanu oddiwrth gyfandir Ewrop. Yn Llanbedr rhoddodd yr Athro Anwyl amryw gyfarwyddiadau i aelodau y Gymdeithas parthed y moddion goreu i wneuthur y Gym- deithas yn ddefnyddiol. Trwy y Cymdeithasau Sirol hyn y mae gobaith am gael hanes cywir a chyflawn o'n gwlad a'n cenedl. Cyhoeddir yn y rhifyn hwn dwy erthygl" Gymraeg, un yn traethu ar hanes Hafod Ychtryd, a'r Hall yn rhoddi desgrifiad manwl o olion hynafiaetho! plwyf Llanddewi Brefi. Nid oes amheuaeth na chafodd llenyddiaeth ein gwlad golled ddir- fawr pan ddinystriwyd Ilyfrgell yr Hafod gan dan; canys yr oedd gan Mr. Johnes luaws o lawysgrifau Cymreig mwyaf gwerthfawr. Pwy all ddyweyd y golled a gafodd ein llenyddiaeth yn ninystriad athrofa enwog Bangor Iscoed? Ac o'n rhan ein hunain, nid ydym yn canfod seiliau digonol i amheu gwirionedd y chwedl am losgiad y llawysgrifau Cymreig yn y Twr Gwyn, yn nyddiau lorwerth, gan Scolan, ceidwad y twr, am yr hwn y canodd y bardd,- "Ysceler oedd i Scolan Fwrw'r twr llyfrau i'r tan." Gyda Haw, a ydyw y gadair a wnaed gan Mr. Johnes yr Hafod i Iolo Morganwg eto ar gael? Dioddefai Iolo oddiwrth ddiffyg anadl, ae ni fedrai gysgu mewn gwely. Oherwydd hyny gwnaeth Yswain yr Hafod gadair bwrpasol iddo, i eistedd ami y dydd ac i orphwys arni y nos. Dywedwyd wrthym fod y gadair hon yn awr yn Nhre Cefel, amaethdy yn agos i Dregaron, ac ami yr englyn hwn,-