Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE QUAKERS IN CARDIGANSHIRE. CRYNWYR LLANDDEWI BREFI. (Talfyriad o Bapur a Ddarllenwyd yn Werndriw). Nid cydgyfarfyddiad anyddorol ydyw y ffaith fod ein cymdeithas yu cyfarfod ger beddau a man cyfarfod y Crynwyr ar ben y dau' can' mlynedd o'r hanes cyntaf a gawn am y Crynwyr yn y lie. Erys yr ben dderwen a'i changhenau praff wrthi ei hun a'i chydgyfoedion megis wedi rhagflaeni am ei bod yn perthyn i'r dosbarth sydd yn meddu ar ryddin. Felly hefyd goffadwriaeth y Orynwyr a gladdwyd gerllaw iddi am iddynt fedri sefyll a pheidio a chydymffurfio a'r cyfnod cysglyd yr oeddynt yn byw ynddo. Da ydyw ymweled a man fechan eu beddau er dal y gwersi a ddysgasant yn eu ddydd, gerbron y byd. Saif eu coffadwriaeth yn wyrddlas tra mai coffadwriaeth y gormeswyr oedd yn cydfyw a hwy wedi pydru. Yr hanes cyntaf a gawn am y Crynwyr yn y lie yma ydyw fod henaf- gwr. o'r enw George David Jenkins yn byw yn Werndriw, ac iddo ddau fab a nterch o'r enwau John, Samuel, ag Anne, yn y flwyddyn 1710. Nid oedd yr lien wr beth bynag yn Grynwr selog am y ceir ef yn meio'r plant am bcidio cydymffurfio a deddfau'r cyfnod. Naturiol felly ydyw gofyn pa fodd yr aeth y plant i goleddu syniad- au y Crynwyr gan fod lie cryf i gasglu i fod ond ychydig os neb o Gryn- wyr yn y lie ar y pryd. Tybia rhai haneswyr lleol ac nid heb ryw gymaint o sail draddodiadol fod plant Werndriw fel llawer o blant amaethwyr a thirfeddianwyr bychain wedi derbyn eu haddysg foreuol yn rhai o drefydd y gororau megis Llanlleinu, Llanandras, a Kington, hen arferiad a barhaodd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Ategir y syniad hwn gan y ffaith i'r ferch i briodi yn mhen blynyddoedd ar ol hyn ag un o'r enw Thomas Evans, Llanfihangel Rhydithon, Sir Faesyfed. Barna eraill fod mwnwyr o Gornwall yn gweithio yn ngweithfeydd yr ardal a'u bod wedi dod i gyfarfyddiad a'r teulu. Ac eraill gyda Hawn cymaint o sail mai teulu wedi eu deffro gan rai o hen bregethwyr Ymneullduol y cyfnod oeddynt ar y cyntaf, heb fod mewn cysylltiad uniongyrchol a'r Crynwyr­gan y cawn yn yr hanes cyntaf am y teulu i'r ddau fab i bresenoli eu hunain mewn cyfarfod neullduol o'r Crynwyr a gynhelid yn Llandovery, ac iddynt gymeryd rhan yn y cyfarfod, ac hefyd i ymadael o'r lie heb neb i wybod o ba le y daethant nac i ba le yr aeth- ant. Ar ol hyn cawn un o arweinwyr yr enwad yn dod i chwilio am y ddau frawd ac yn dod o hyd iddynt. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1710, a'r tebyg ydyw iddynt sefydlu cymdeithas yn Werndriw 1 Yn y flwyddyn 1717 bu farw yn Werndriw un o'r enw Richard Hay- den, o Swydd Caerloew, o'r frech wen, un o'r Crynwyr oedd yn teithio fel pregethwr oedd ef, a dygwyd ei gorph dros y mynydd i Llandovery i'w gladdu yn Werndriw y pryd hyny. Bu John George farw ychydig ar ol hyn a bernir mai ef oedd y cyntaf gladdwyd yma. Yn y flwyddyn 1726, priododd Ann George, yr unig un o'r plant oedd yn aros erbyn hyn, fel y dywedwyd, a Thomas Evans. Bu Werndriw am flynyddau wedi hyn yn lie cyfarfod y Crynwyr, a bu enwogion yr enwad yma o bryd i bryd.