Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HAFOD YCHTRYD. (Parhad). 4. JOHN PAYNTER.— Penaeth yn ngweithiau mwn Cwm Ystwyth ydoedd Mr. Paynter, a phreswyliai yn y palasdy yn ystod mabandod yr etifedd, a thra fu yn gorphen ei gwrs colegawl. Daeth Mr. Paynter i'r Hafod tua 1760. Ymddengys ei fod yn ddyn o gymeriad pur, ac yn Gristion gloew. Gwaedai ei galon wrth ganfod drygioni ac anuwioldeb pobl y fro, a gwnaeth ei oreu i godi yr ardal yn grefyddol a chymdeithas- ol. Y mae ei lythyrau at yr Esgob Squire ac ereill yn llawn o naws crefyddol. Dyddorol dros ben yw darllen ei lythyrau at yr esgob a enwyd ynghylch gwaddol yr Eglwyss Newydd, a thaflant oleuni lawer ar sefyllfa foesol y plwyf tua 1760-2. Coeleddai Mr. Paynter. syniadau uchel iawn am brydferthwch yr Hafod a'r cylch. Wele ddyfyniad o'i lythyrau i ddangos hyny — Surprising singularity of this enchanting spot. For may part I was in raptures when I first accidentally saw it, and never rested till I had prevailed on Mr. Johnes, of Croft and Llan- fair, to hire it to me for life." Croesodd y gwr da hwn y glyn yn y flwyddyn 1775. 5. THOMAS JOHNES.-Mab hynaf Thomas Johnes, Llanfair a Phen-y'bont, Sir Faesyfed, ydoedd hwn. Syrthia Uawer i'r amryfusedd o ddyweyd mai mab Thomas Johnes, Hafod, ydoedd. Nis gallasai hyny fod, gan i Thomas Johnes, Hafod, farw yn 1733, ac yn 1748 y ganwyd y Thomas Johnes hwn. Wele daflen achyddol y Johnesiaid:-