Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tir y Werin, Qeredigion. 6ELLIR rhannu tiroedd Ceredigion, yn ol y modd y delir hwynt ar hyn o bryd, i bedwar dosbarth, — eiddo personol tir-feddian- wyr yn stadoedd neu yn dyddynod unigol, tir eglwysig, tir y goron, a thir cyffredin. Nid oedd y tiroedd sydd yn perthyn i bob un o'r dosbarthiadau hyn ar hyn o bryd yn perthyn iddynt yn yr amser gynt. Er engraifft, perthynai tiroedd lawer i Fynachlog Ystrad Fflur sydd erbyn hyn wedi mynd yn rhan o stadoedd mawrion yr ardal honno, ac felly yn eiddo personol tir-feddianwyr unigol. Dyddorol iawn fuasai cael hanes manwl o'r modd y delid ffermydd dan nawdd myneich Ystrad Fflur, a pha fodd y rhannwyd hwynt pan aeth y tir i ddwylaw Harri'r Wythfed. Dyddorol hefyd fuasai olrhain y perchenogaeth tir a mwnau a adweinir wrth yr enw hawlfreintiau y goron ceir hawlfreintiau felly parthed i ddarn o fynydd tua tharddle'r Afon Teify sydd yn cynwys tipyn o'r arwynebedd tlotaf yn Ngheredigion. Cwestiynau ydyw'r rhai hyn tu hwnt i alluoedd hanesydd heb ei ddysgyblu ac heb gyfleusterau llyfrgell enwir hwynt yma gan obeithio y cymer rhyw efrydydd ymchwilgar atynt yn eu tro. O'r tu arall mae hanes cau i fewn y tir cyffredin yn perthyn i ddyddiau diweddarach aethai ymlaen yn araf yn wir drwy'r canrifoedd er pan y dechreuwyd ffurfio stadoedd mawr- ion, ac yn fwyaf neilltuol pan wnaed cnewyllyn ystadoedd newydd dan nawdd y Tuduriaid. Ond tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac yn banner cyntaf y bedwaredd-ar-bymtheg cyrhaeddodd y mudiad ei eithafbwynt, oblegid y pryd hwnnw y gellir dweyd i dir ddod yn werthfawr am y tro cyntaf. Mae'r hanes a roddir yma, parthed i diroedd canolbarth y Sir, yn ffrwyth sylw ac adgofion personol gan mwyaf ynghyd a ffeithiau a gaed drwy holi hen drigolion yr ardal. Tua'r flwyddyn 1795-yehydig dros ganrif yn ol-bu dirprwy- aeth yn gwneyd ymchwiliad parthed tir cyffredin y Sir. Yn ol yr adroddiad a gaed yr oedd y tir cyffredin yn cynwys 206,720 o erwau yr oedd y Sir i gyd yn cynwys 435,492 o erwau felly yr oedd y tir cyffredin, hyd yn oed tua chanrif yn ol, yn agos i hanner Sir Aberteifi. Yr oedd y tiroedd hyn hwnt ac acw yn y gwahanol blwyfi ac yn amrywio yn eu maint; yn y rhan fwyaf o blwyfi maent wedi diflannu'n llwyr, oddigerth bod arwyddion o'u bodolaeth gynt yn yr hawlfreint- iau sydd gan y plwyfolion i ladd mawn a chynauafu brwyn ar y corsydd, megis yn ardaloedd Nantcwnlle, Blaenpennal, Llangeitho a Llanddewi-brefi. Digwyddodd un o bedwar o bethau i'r tiroedd cyffredin a nodwyd yn ystod y ganrif a aeth heibio. 1. Erys rhai o honynt eto heb eu rhannu, megis tiroedd cyffredin Caron-uwch-clawdd a Charon-is-clawdd. Ond gan i newid