Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyffryn Aeron. Gan DAN JENKINS, Pentre-felin. Pan y gofynnodd y Cadeirydd i mi ysgrifennu ar Ddyffryn Aeron meddiannwyd fi a'r teimlad oeddwn ynddo pan y deuai Rhywun i fewn i'r Ysgoldy heb roi cnoc ar y drws, ac, ar awr wan, addewais gydsynio a'i gais. Crefaf eich pardwn am ddyfynnu ychydig linellau o'r Saesneg, rhag i mi, wrth eu trosi, wneud cam a'r gwreiddiol Strange with what fondness to one earthly spot Through long long years the human heart can cling." John Lloyd, Dinas, Llanwrtyd. Ac am yr un ysmotyn dywedai Kilsby- I have loved thee with a love second only to that of a woman, and with a passion which sober men pronounce madness." Yr Aeron Yn ei gan i'r Aeron, ebe Manod Wyllt Ffynhonnau ei tharddiad yw Aeddwen a Manod Y llynnau amgylchir ag uthredd di-ail." Mae y ddwy lyn, Aeddwen1 a Manod, ar y Mynydd Bach ac ym mhlwyfi Llanrhystyd, Blaenpennal a Llangeitho, gyda rhyw ddwy filltir o gors pyllau tyweirch yn eu gwahanu — hoff gynefin y chwiban- ogl, y gornchwiglen a'r giach. Aroglir mwg tan y mawn yma o bell ffordd. Y chwi fodurwyr a heicwyr ewch am dro i'r uchelion o Ben uwch i Bant Llyn a chewch weld un o'r golygfeydd mwyaf gogon- eddus yng Nghymru annwyl. Mae cwch bach newydd yno ar eich cyfer. Nid yr un a oedd gyda Tredwell. Cof gennyf fod yn hwnnw, gyda phedwar cyfaill, flynyddau 'nol, a bu'n agos i mi a chael trochiad. Yr oedd y cwch yn gillwn dwr Wedi i'r gofer o'r Aeddwen redeg am ryw ddwy filltir rhed iddi y gorlif o'r Fanod. Ar ei chwrs i Langeitho, gweithia ei ffordd trwy gwm cul a choediog, gan Frochwyllt ymruthro dros ddannedd y graig a daw at y Bontgoy ar y briffordd o Dregaron i Aberaeron. Ebe Manod WyUt Ar bant e geir y Bont Gau-uwch agwrdd Crych eigion a'i donnau Cedyrn wyr fu'n cadarnhau Y bont hon ar bentanau."