Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymreolaeth ar frig y rhaglen wleidyddol felly, a phwyslais neilltuol ar yr iaith, gan gredu fod 'hawl gan bob cenedl i reoli ei hunan', nid oedd cenedlaetholdeb yn golygu annibyniaeth iddo, yn fwy nag i fudiad Cymru Fydd. O safbwynt ymarferol, nid Ewrop ffederal a ddeuai i'r meddwl yn yr oes honno, ond 'Home Rule All Round' yn Ynysoedd Prydain, neu senedd ymerodrol lIe byddai Cymru ar yr un lefel â De Affrica yn ogystal ag Iwerddon. Eto i gyd, ysbryd 1848 sy'n dod i'r amlwg yn anerchiad Tom Ellis i gyngor cenedlaethol y Rhyddfrydwyr ym 1888: Self-government is at once the inspirer and the goal of nationhood. Wales at this epoch of expansion in her history, needs the opportunity for initiative and the means for unity. Without a national assembly at once the symbol of unity and the instrument of self-government her position as a nation can not be assured, and her work as a nation can not be done (Ellis, 1912: 189); felly, hefyd, ar derfyn ei araith o blaid Mesur Llywodraeth Leol 1894, pan alwodd am 'a National Assembly, which shall form the highest embodiment of the national unity and the main instrument for fulfilling the national will and purpose of Wales' (Ellis, 1912: 184). Term uchelgeisiol yw Cynulliad Cenedlaethol felly. Hoffwn drafod i ba raddau y gellid cyfiawnhau cynnwys y fath derm yn neddf 1998, nid yn unig yng ngoleuni'r ddeddf ei hun ond yn wyneb profiad personol fel aelod o'r GrWP Ymgynghorol (NAAG) a wahoddwyd i lunio argymhellion i'r Ysgrifennydd Gwladol, Mr Ron Davies, i'w gynorthwyo wrth baratoi canllawiau i'r Comisiwn a fyddai, yn y man, yn llunio Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Enwebwyd rhai aelodau o'r grwp gan arweinwyr pleidiau. Cynrychiolai eraill amryw o sefydliadau dylanwadol fel y CBI, y Comisiwn Perthnasau Hiliol a llywodraeth leol. Yn y bôn, gwaith y Grwp oedd ceisio consensws, dan arweiniad penaethiaid Uned Ddatganoli'r Swyddfa Gymreig, ar sut y gallai'r Cynulliad redeg ei fusnes 'yn ddemocrataidd, effeithiol, effeithlon a chynhwysol' (Swyddfa Gymreig, 1998). 2. 'PLUS ÇA CHANGE, PLUS C'EST LA MÊME CHOSE' Yr hyn sy'n taro pawb ynglyn â Deddf Llywodraeth Cymru yw'r ffaith nad yw Cymru'n cael yr un hawliau i ddeddfu ac i drethu â'r Alban heb sôn am gynulliadau rhanbarthol y rhan fwyaf o'r gwladwriaethau eraill a'u hetifeddodd neu a'u sefydlodd. Yn fras, dim ond datganoli gweithredol a