Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PEDAIR AWR AR UGAIN NOS IAU Diwrnod prysur ceisio cael trefn ar y ty a'r siopa cyn penwythnos y Pasg. Dwi'n credu imi gael popeth yn y dref y bore 'ma heblaw am y pysgod i ginio fory. Roedd y siop bysgod yn llawn dop a finna' ddim awydd aros yn y ciw a rhyw fag yn hongian ar bob bys. Fe alwaf fory ar ôl bod yn y Cymundeb. Eleri yn cyrraedd adra' heddiw yn flinedig ond yn falch o gael bod adra dwi'n gobeithio! Fe gyrhaeddodd Rhys ddoe ac felly dyma ni unwaith eto yn deulu cyflawn! Roedd yn rhaid agor y bwrdd allan yn llawn ar gyfer swper heno; arwydd pendant bod pawb yn bresennol! Eleri wedi casglu coflaid o Gennin Pedr o'r ardd au gosod yng nghanol y bwrdd. Rhys a hithau yn teimlo'n drist a chwithig iawn o fod adra a dim Sionyn yn neidio atynt a'u llyfu. Rhys yn mynnu lluchio darnau o fara iddo o dan y bwrdd ond neb yna! Finna'n egluro iddynt i Sionyn gael mynd yn dawel iawn; y milfeddyg yn galw yn y ty a rhoi chwistreilliad iddo tra gorweddai yn nrws y cefn y fan 11e bu'n gorwedd mor ffyddlon am ddeuddeg mlynedd yn gwneud ei ddyletswydd o'n gwarchod ni gyd. Roedd Pip, y gath fach newydd, yn gymorth i lenwi'r gwacter a dod a gwên ar eu hwynebau. Pelen fach felen o fywyd o gwmpas y ty yhi a'r Cennin Pedr yn dod ag ychydig o oleuni Gwanwynol i'r ty. Y rhyfeddod yw fel mae Pwt, un o'r cathod mawr, wedi ei mabwysiadu, tra mae Rosi, cath fawr arall yn poeri ac yn codi ei gwrychyn arni. Rhyfedd o fyd! Un cath yn derbyn dieithryn i'r ty a'r llall yn ei gwrthod. Emyr yn hwyr adra o'i waith ond mewn pryd inni gyd gael swper gyda'n gilydd. Yntau'n amlwg yn falch o gael pawb adra unwaith eto. Dwi'n amau bod y tadau yn hiraethu mwy na'r mamau am y plant pan maent yn mynd dros ben y nyth! Yn fy mhrysurdeb yn paratoi bwyd fe angofiais yn llwyr am ychydig ei bod yn Nos Iau Cablyd ac yn Groglith yfory. Trueni na fuasem yn dathlu'r Groglith a'r Pasg ar yr un dyddiad bob blwyddyn; dwi'n siwr y buaswn i yn bersonol yn gallu agosau at yr Ẅyl yn llawer mwy myfyrgar ac ystyriol. Os oedaf am ychydig ar Noswyl Nadolig a chlustfeinio dwi weithiau yn gallu ymateb i dawelwch a rhyfeddod "y noson honno yn y wlad honno." Ond am heno dwi fel petawn yn hollol fyddar iddi. Am noson i fod mor ddisut yn ei chylch! Noson lle y gwewyd y fath emosiynau i'w gilydd. Rown i'n meddwl wrth y bwrdd swper heno, tra'n edrych ar y plant, mor wir yw'r ffaith bod absenoldeb yn aml yn dyfnhau perthynas pobl â'i gilydd-rhieni a phlant, Ann Parri gwyr a gwragedd, cariadon a chyfeillion. Fe atgoffwyd fi o rywbeth ddywedodd Bon- haeffer yn un o'i lythyrau. Ar ôl swper, dod o hyd i'r llyfr, a sylwi mai ar Noswyl Nadolig yr ysgrifennodd y llythyr arbennig hwnnw, ond eto, mae'r geiriau yn hynod o addas ar gyfer heno. "Nothing can make up for the absence of someone whom we love, and it would be wrong to find a substitute, we must simply hold out and see it through. That sounds very hard at first, but at the same time it is a great consolation for the gap as it remains unfilled, preserves the bond between us. It is nonsense to say that God fills the gap; he doesn't fill it, but on the contrary, he keeps it empty and so helps us to keep alive our communion with each other, even at the cost of pain." Mor dawel a chadarn yw geiriau Bonhoeffer ac mor debyg yn eu naws i gynghorion ac anogaethau yr Iesu i'w ddisgyblion wrth ffarwelio yn efengyl loan. Fe wyddai'r Iesu ei bod yn anhepgorol bod yn gyfnod o absenoldeb rhyngddynt. Roedd yn rhaid Iddo adael y disgyblion os oeddynt yn dyfu yn bersonau crwn aeddfed. "Yr wyf yn dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad âf ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi ond pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn yr holl wirionedd." 'Roedd Eleri a Rhys yn siarad mwy nag arfer wrth y bwrdd heno; hanesion coleg yn sicr ond hefyd rhyw atgoffa'r gweddill ohonom o hanesion amdanynt eu hunain yn fach "Wyt ti'n cofio ni'n mynd yn y cwch i Nant Gwytheyrn — a hwnnw'n troi drosodd?" "Wyt ti'n cofio fi'n dawnsio yn y ddawns flodau?" Atgofion un ar ôl y llall fel petai dod a hwy i'r cof yn eu hanghori hwy wrth y cartref unwaith eto. Bywyd hel atgofion! mae'r peth yn annileadwy. Mae'r rhai braf yn ein cynnal yn y pres- ennol a'n hysgogi a'n hysbrydoli i'r dyfodol; a'r rhai annymunol o'i dwyn i gof yn fynegbyst yn ein cyfeirio i ffordd amgenach yn y dyfodol. "Gwnewch hyn er coffa amdanaf." Mae'n well imi roi taw ami mae'n tynnu at hanner nos. Eto dwi'n amau gai gysgu am sbel y fath swn yn y ty rhyw ffilm neu record yn sgrechian o rhywle! DYDD GWENER Codi braidd yn hwyr y bore ma gan nad oeddwn i wedi gosod y larwm neithiwr. Emyr wedi bod allan ar alwad yn ystod y nos felly codi'n ddistaw a sleifio allan o'r llofft i'r gegin. Dim ond Huw oedd wedi codi. Ninnau'n cael cwmni ein gilydd am rhyw hanner awr tra gwneud brecwast iddo ei facwn, wy a thomato arferol! Fe fyddai'r sgwrs i ddieithryn yn swnio'n hynod o unochrog yfi yn holi ac yn ateb y cwestiynau! Ond mae yma dawelwch a thangnefedd yn nistawrwydd Huw. Mae tawelwch yn rhyw gyflwr sydd un ai yn eich dychryn neu yn eich ysbrydoli. Mae tawelwch eglwys neu dawelwch yr Iesu o flaen ei wrthwynebwyr fel rhyw seibiant mewn darn o gerddoriaeth. Ond mae distawrwydd trueiniaid y Trydydd Byd yn eu hargyfwng yn ingol. Neb wedi codi erbyn chwarter i ddeg er bod Iwan wedi sôn neithiwr ei fod yn dod i'r Cymundeb. Gadewais iddynt gysgu. Cyrraedd capel mewn pryd — am unwaith! Cymundeb undebol yng nghapel y Wesleaid a finna ers blynyddoedd bellach yn cael bendith o gymuno yn null dilynwyr John Wesley. Brysied y dydd y byddwn yn uno! Dim llawer yno ag ystyried ei bod yn undebol ond mae rhywun yn arfer â hynny erbyn hyn. Bum ers blynyddoedd o blaid cyfamodi a hynny am resymau call ymarferol. Ond yn ddiweddar mae yr awydd am gyfamodi yn codi o ddyfnder- oedd by modolaeth nid "fe ddylem" and "dwisio"! Rown i'n falch mai hanes yr Iesu yn yr ardd a ddarllenwyd. Dwi'n gallu llithro i mewn i'r ardd yn llawer haws nag ydwi'n gallu agosau at y Groes. "Wedi iddo ddweud hyn aeth Iesu allan gyda'i ddisgyb- lion a chroesi nant Cedron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a'i ddisgyblion." Mae Crist Gethsemane yn fyw i bawb sydd wedi gorfod ymgodymu â methiant a hunan amheuaeth yn eu bywydau. Profiadau mae'n debyg oedd yn rhywbeth real i rhan helaeth oedd yna bore ma. Tydi'i ddim yn rhywbeth newydd bod y byd yn gwneud inni deimlo'n fethiant am nad ydym yn cyrraedd rhyw nod neu gilydd. Ond y tristwch yw mor aml mae'r gymdeithas Cristionogol yn gwneud inni deimlo'n fethiant. "Ble mae'r bobl ifanc" yw'r gri wythnosol yn ein capeli a'n heglwysi a rhai rhieni wrth fethu cael eu plant i ddod (tra'n gweld eraill yn llwyddo) yn mynd yn fwy ac yn fwy digalon ac yn y diwedd yn cilio eu hunain. Roedd hi'n bwrw pan ddes i allan o'r capel. Cofio sydyn nad oeddwn i wedi cael pysgod i ginio. Rhedeg i'r siop. Doedd hi