Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddim mor llawn â ddoe ond doedd dim ots genni aros heddiw oherwydd roedd y gwasanaeth boreol ymlaen ganddynt ar y radio! Finna felly yn cael parhau fy myfyrdod yn y siop bysgod! Fe gododd pawb mewn pryd i ginio ond erbyn canol y pnawn roedd pawb wedi chwalu i'w fyd bach ei hun. Emyr i'r ardd, Eleri i nôl ei chariad o'r orsaf, Rhys at ei lyfr, Guto i weld ei ffrindiau, Iwan yn edrych ar rhyw ffilm. Aeth Huw a finna drwodd a gwrando ar record o'r Diodd- efaint gan Bach. Ia, unigolion ydyn bob un. Pob un ohonom a'n hofnau a'n gobeithion personol. Wrth wrando ar y Dioddefaint a Dietrich Fischer yn portreadu'r Iesu (y fath lais i bortreadu'r fath Berson) holi am ganfed tro wrth glywed "Fy nhad, fy nhad paham ym gadewaist" pam, pam? Ches i ddim ateb dim ond gwên gan Huw wrth i'r corws bendigedig ganu "Cof am y cyfiawn Iesu" yn Almaeneg. Finna rhywfodd wrth wrando yn gwybod yng ngwaelodion fy ymwybod beth yw'r ateb ond nad oes yna eirfa i'w fynegi a theimlo fel Helen yn nofel E. M. Forster "Howards End" wrth wrando ar bumed symffoni Beethoven. "The music had summed up to her all that had happened or could happen in her career. She read it as a tangible statement, which could never be super- seded." Yn Ninbych y mae cartref Ann Parri ac y mae hi'n aelod gweithgar yn y Capel Mawr. (Y mae hi'n ferch ieuengaf y diweddar Barchg. James Humphries, Y Rhos). Cynnau cannwyll y Pasg yng Nghorea. Technoleg gydnaws â Christnogaeth Ambrose Williams gwr a ymgyrchodd am Ganolfan Dechnoleg Genedlaethol i Gymru Mae y diweddar Bob Owen, Croesor, yn ei lyfr "Hanes ei Fywyd" gan Dyfed Evans yn mawrhau y Cymry a ymfudodd i'r Amerig ac yn ymfalchio yn eu gorchestion i fod yn berchen ffermdai mawr yn Philadelphia gyda phedwar ugain y cant yn dwyn enwau Cymraeg. Dynion fel Hugh Jones o Ddyffryn Ar- dudwy a Gabriel Thomas o Landderfel a ysgrifennodd y llyfrau cyntaf yn America am natur tiriogaeth a chynnyrch y wlad, a Lewis Evans a anwyd yn Nhy Mawr Llangwnadl a luniodd rai o fapiau cynnar pwysicaf America. Cymerias ddiddordeb anghyffredin yn y toddwyr haearn o Dde Cymru a fu'n arloesi'r ffordd i godi ffwrneisi ym Mhen- sylfania ac Ohio yn arbennig yn hanes y mwyaf ohonynt, Dafydd Thomas o Gastell Nedd. Ymddiddorais fwy na neb yn y byd hefyd, reit siŵr yn hanes David Hughes a ymfudodd o'r Bala yn 1838 ac a ddyfeisiodd yn America y "Printing Telegraph" a'r microffon cyntaf. Ef wedi dychwelyd i Brydain a ddyfeisiodd y Radio. Onid Cymro o Garno oedd Oliver Thomas y gwr a ddyfeisiodd y stemar gyn- taf yn hanes y byd? Ac onid un o'r Jonesiaid, Cymro a ymfudodd i America o Ddinas Mawddwy a roes inni'r teipiadur? A beth am y Griffithiaid, y seiri llongau a an- wyd yn Nhy Mawr, Llangian Lyn? John Willis Griffith a ymfudodd i Brooklyn gyda'i dad oedd y darlithydd cyntaf ar longwriaeth yn America. Dyfeisiodd beiriannau pwysig y "timber bending machine" — a chyfrifid ef yn bennaf yn y byd yn ei faes. Dyn o Fethesda a ysgrifennodd y llyfr cyntaf yn America ar drafod llechi. Dynion o Ddolwyddelan, perthnasau i John Jones Talysarn a gynhyrchodd beiriannau amaethyddol gyntaf yng Nghanoldir America. Griffith Griffiths o Dy Gwyn Llanllyfni oedd y prif awdurdod ar drin marmor gwenithfaen ei chwarel chwarel y Penrhyn wrth ei henw, yng Nghaliffornia ac yn adnabyddus drwy'r byd. Wedi iddi hel ei gyfoeth rhoes hwn barc gwerth pum can mil o ddoleri yn anrheg i dref Los Angeles. Beth ydyw ein hadwaith ni y Cymry cyfoes i ddatganiadau Bob Owen, a pham yr ydym ni mor amharod i drin yr hyn sydd yn creu gwaith creadigol yn ein cylchgronau Cymraeg? Onid Saer oedd yr Arglwydd Iesu Grist? Dolur i nifer ohonom oedd ceisio ennill sefydliadau a fyddai yn rhoi cyfle i ddyfeisiadau Cymreig a'u datblygu trwy'r ysgolion i'r colegau a'r prifysgolion. Bu i ni wneud popeth o fewn trefn democrataid ac ennill cefnogaeth frwd oddiwrth gynghorau lleol Cymru, eto methasom â symud y sefydliadau a ddylasai fod wedi gwneud hyn flynyddoedd yn ô1. Mae byw o dan yr amodau hyn ym mhrifddinas Cymru yn groes i'r syniad o ddatblygiad economaidd teg. Os mai dibyn- nu ar ddyfeisiadau Japan ac America fydd rhaid, yna byddwn yn gwrthod datblygu y greddfau naturiol sydd ym mhlant Cymru. Bydd y Ganolfan Dechnoleg yng Nghlwyd yn gyfrifol am ddatblygu med- dyliau ieuenctid y Sir, a hefyd plant Gogledd Cymru i gyd, fel eu bod yn ddyfeiswyr cystal os nad gwell na'r Americanwyr a'r Japaneaid. Bu i bwyllgor ymgyrch gyfarfod am yn agos i ugain mlynedd, cychwynnwyd yr ymgyrch yn Neuadd y Ddinas Caerdydd gan orffen yn y Brifysgol. Yr oeddem o'r farn mai dim ond anghenion heddychol oedd i gael sylw yn y Ganolfan Dechnoleg a rhaid gofalu mai felly y bydd hi. 'Roedd awgrymiadau i weithredu trwy pob cyfrwng addysg yng Nghymru fel y bydd plant yn awyddus i ddilyn galwadau a fydd yn eu gwneud yn feistri ac arweinyddion yn y "Microchip", galwedigaeth a gwyddor i gynorthwyo y ddynoliaeth ac nid i'w dinistrio. Hyderwn y galluogir y Cymry eto fod ar y blaen ymhob agwedd o ddiwydiant, masnach a thechnoleg a rhaid cynnwys yr amodau hyn yng Nghlwyd. Mae'r enw Cris- tion yn rhoi pwysau newydd arnom ni sy'n derbyn y cylchgrawn hwn. Gofynnir gen- nym i ymateb fel Cristnogion i bob ysgrif ac erthygl ynddo. Wnewch chi bawb ystyried pwysigrwydd y dechnoleg newydd yn y ganolfan yng Nghlwyd a'r angen i sicrhau mai i amcanion heddychol y cyfeirir yr ad- dysg a'r ymchwil yno. Pobl gyntaf, nid pethau Nid yw'r ideolegau hynny sy'n cymryd pobl o'r IIe blaenaf ac yn hawlio pris mewn dioddefaint ac angau sy'n cael ei ystyried yn dderbyniol, eto wedi diflannu fel yr oedd pobl hyd at yn ddiweddar wedi arfer gobeithio. Mae ein llywod- raeth yn gwneud delfryd o arian a tech- noleg. Gwnaed drwg yn y prifysgolion wrth docio ar astudiaethau dyneiddiol, y celfyddydau, astudiaethau cymdeithasol (sy'n cynnwys diwinyddiaeth a chrefydd) a ffafrio technoleg. Nid yw dyn yn haeddu cymaint sylw â'i deganau a'i eiddo. Ac am fod arnom gywilydd, ac am ein bod wedi drysu ynglyn â ni ein hunain, yr ydym yn bodloni ar hynny. John Drury yn y cylchgrawn "Theology"