Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ALAN RICHARDSON CYMWYNASWR Yn y flwyddyn 1975 bu farw deon eglwys gadeiriol Efrog ar y pryd, y Tra Pharchedig Alan Richardson. Ers rhai blynyddoedd cysylltir Efrog ym meddyliau llawer ohonom â'r deffroad ysbrydol dan arweiniad y diweddar David Watson. Nid llai, yng ngolwg llu mawr ohonom yw ein dyled i'r Deon Richardson. Dyma un o'r cymwynaswyr mawr i bawb ohonom sy'n ceisio'n gyson ac yn gyhoeddus i ddehongli'r ysgrythurau ac i roddi rheswm am y ffydd sydd ynom. Da iawn o beth i nifer helaeth o bobl oedd cyfarwyddyd Alan Richardson yn yr amgylchfyd diwinyddol sy'n gynefin â phobl y pegynnau: y ffwndamentaliaid di-gyfaddawd yn un man, a'r radicaliaid eithafol sy'n gwylied diflannu'r canllawiau'n ddi-gyffro yn y pen arall. Cryfder aruthrol Alan Richardson oedd ei fod yn ysgolhaig Beiblaidd a diwinydd medrus, ond hefyd yn gyfarwydd iawn â phrif nodweddion a symudiadau'r diwylliant seciwlaraidd. Gallai draethu gyda chryn awdurdod yn y ddau faes, er na fyddech yn teimlo 0 gwbl ei fod yn haerllug yn herio, yn wahanol i rai pobl llai dawnus. O edrych o gwmpas ar silffoedd fy siop waith yn y stydi gwelaf dystiolaeth eglur o'm dyled iddo. Ceir nifer o'i lyfrau sydd wedi bod yn oleuni i'm llwybr ar hyd blynyddoedd fy ngweinidogaeth. Pwysais yn drwm arnynt, a braf yw cael cydnabod fy nyled. Gair o brofiad personol sydd yma: nid wyf am feiddio siarad yn enw unrhyw ysgol ddiwinyddol neu safbwynt "swyddogol." Ganwyd Alan Richardson ym 1905, ac addysgwyd ef ym mhrifysgolion Lerpwl, Rhydychen a Chaergrawnt. Bu'n weithgar gyda Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr (SCM), ac yna'n giwrat yn Lerpwl, yn gaplan cynorthwyol yn eglwys gadeiriol Lerpwl, ac yn gaplan Ridley Hall, Caergrawnt. Bu'n diwtor yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yna aeth yn ficer i Northumberland am ychydig. Bu'n Ysgrifennydd Astudiaethau gyda'r SCM ym 1938-43. Treuliodd y blynyddoedd 1943-53 yn gysylltiedig ag eglwys gadeiriol Durham cyn mynd yn athro Diwinyddiaeth Gristnogol ym mhrifysgol Nottingham 1953-64. Apwyntiwyd ef yn ddeon Efrog ym 1964. Dyna'n fyr brif bwyntiau gyrfa'r ysgolhaig a'r cymwynaswr hwn, heb nodi'i ymweliadau â cholegau a sefydliadau mewn gwledydd tramor i ddarlithio. Beth am y llyfrau? Fel y dywedais, gair o brofiad sydd yma ac rwy'n sôn am y dylanwadau arnaf yn bersonol. Preface To Bible-Study oedd y cyntaf a ddaeth i'm llaw, pan oeddwn yn aelod o'r Religious Book Club (Gwasg SCM). Mae'n ddigon hawdd sôn yn ystrydebol am "wneud y Beibl yn fyw", ac ystyr hyn i rywrai yw defnyddio gimics. Nid felly Richardson: nid rhyw chwarae'n arwynebol â'r Beibl a'i neges a geir ganddo ond ymwybyddiaeth fod y Gair yn wirionedd byw yn awr, yn y byd modern sydd ohoni, a hynny heb fradychu gwirioneddau treiddiol yr hen oesau. O'r Gair, o'i ddehongli'n onest y daw'r golau ar gyflwr Dyn. Ond mae'n rhaid dysgu sut i'w astudio'n gyfrifol. Mae Christian Apologetics yn mynd i'r afael â llawer o broblemau cyfoes, fel y gellid disgwyl gan Richardson. Ac eto'n hynod iawn mae'n cydnabod ysbrydoliaeth barhaus ei ddyled i feddyliwr Cristnogol o'r Hen Fyd, Awstin Sant. Mae'n llyfr sy'n gosod allan resymau cryfion dros ystyried Alun Page diwinyddiaeth yn wyddor! Canlyniad diddorol yr ymgais hon yw dadansoddiad awgrymiadol yr awdur o ddatblygiad gwyddoniaeth fel y cyfryw, a'i nodweddion. Imi'n bersonol ac nid wyf yn lleisio barn neb arall dyma'r gyfrol sydd heb apelio'n gryf. Dichon mai'r rheswm yw fy mod dipyn yn ddi-amynedd gyda chategorïau meddyliol yr Oesoedd Canol! Ond mae dau lyfr bach clawr papur y byddaf o hyd yn troi atynt. Mae teitl The Bible in the Age of Science braidd yn gamarweiniol gan nad trafod y Beibl yn uniongyrchol yw ei bwrpas. Mae'n cwmpasu hanes diwinyddiaeth yn y cyfnod diweddar. Wrth wneud hyn y mae'n trafod y chwyldro gwyddonol a dyfodiad y math o fydysawd mecanyddol a welwyd gan Galileo a Newton, ond yn mynd ymlaen i sôn am y chwyldroadau ysgubol pellach a gafwyd y ganrif hon. Pobl yr hen fyd gwyddonol yw'r cewri hyn bellach. Hefyd, ceir golwg ar y datblygiadau pwysig pwysicach efallai i ddiwinyddiaeth ym maes hanes, a'r dull y byddir yn meddwl esbonio digwyddiadau mewn hanes. Yna, ceir trafodaeth ar ddiwinyddiaeth: o Schleiermacher i Barth, ac agweddau eraill. Wrth ysgrifennu Religion in Contemporary Debate aeth Richardson ati i drafod amryw o'r datblygiadau sydd wedi cynhyrfu'r dyfroedd: y math o beth y mae'r creadur lledrithiol hwnnw, "y dyn yn y stryd," wedi clywed sôn amdano. Trwy'r Cyfryngau a'r mawr sôn a fu, ac y sydd, mae'n wybyddus fod rhyw ddiwinyddion yn cyfrif bod Duw wedi marw! Mae un bennod dan y pennawd awgrymog Varieties of Religious Atheism yn goglais chwilfrydedd, a dweud y lleiaf. Mae'n trafod llawer o'r cwestiynau sy'n codi yng ngweithiau'r bobl hyn: sut fydysawd a welir heddiw; a oes Cristnogaeth "ddi-grefydd"; beth am ymosodiadau chwyrn rhai athronwyr ar iaith crefydd, sy'n cyfrif nad yw'r gair "Duw" yn fwy na sŵn di-ystyr? I'r cyfarwydd, daw enwau adnabyddus gerbron Heidegger, Tillich, Bultmann, Barth i enwi'r llwyth Tiwtonaidd yn unig. Nod amgen Richardson, yn wahanol i rai ohonynt hwy, rhaid cydnabod, yw ei fod yn medru trafod mewn arddull eglur. Cystal gen i ei drafodaeth ar natur bygythiadau Seciwlariaeth â dim a welais mewn gosod mwy hir-wyntog! Nid bod y drafodaeth yn mynnu bod o hyd yr wastad y deallusion uchel-ael "Wherever there is a passionate atheist, there is a failure of Christian charity or courage somewhere in the background." A dyweded pob bugail y praidd, Amen. Mae'r gyfres o esboniadau Beiblaidd, The Torch Bible Commentaries, wedi cyfrannu i gyfreidiau llawer ohonom wrth baratoi ar gyfer y pulpud. Pan fo angen goleuni ar bynciau dyrys, heb fynd i'r dyfnderoedd mawr a manwl i drafod pob iod a choma! Un o'r goreuon yn fy marn i yw Genesis I-XI gan Alan Richardson. Mae'n seiliedig, fel y gellid disgwyl, ar gyfrolau mawr megis esboniadau S. R. Driver, John Skinner, Gerhard von Rad, ac eraill. Ond mae Richardson yn trafod pynciau astrus yn ei ddull bachog ei hun, gyda synnwyr a gostyngeiddrwydd. Mae'n dadlennu gogoniannau'r ymdrech fawr i esbonio dyfnion bethau Duw yn yr hen, hen fyd ac eto'n cofio, fel y gwna bob amser, am broblemau dyrys y byd modern.