Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYRSIAU YSGOLION SUL Ar ôl seibiant o dair blynedd cynhelir cyfres arall o Gyrsiau Ysgolion Sul yn y Gogledd dan nawdd Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor a Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol mewn cydweithrediad â Chyngor Ysgolion Sut Cymru. Gwahoddwyd Adran Efrydiau Allanol pob un o'r Colegau Prifysgol gefnogi trefniadaeth gyffelyb yn eu cylchoedd ond, hyd yn hyn, Coleg y Gogledd yw'r unig un ymateb yn hollol gadarnhaol. Dyna felly pam na ellir adrodd bod cyrsiau i ddigwydd mewn mannau eraill yng Nghymru. Credid ei fod yn bwysig cynnal cyrsiau eleni eto am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae'n gychwyn cyfnod newydd y flwyddyn 201 yn hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru; wedi'r Dathlu rhaid paratoi yn effeithiol ar gyfer y dyfodol. Yn ail, cyhoeddir cyfres newydd o lawlyfrau i ddosbarthiadau'r Ysgolion Sut Cyfres y Gair a chredid ei bod yn bwysig fod y rheini yn cael eu cyflwyno i'r athrawon. Bydd y cyrsiau yn digwydd mewn deg canolfan drwy'r Gogledd yn ystod hanner olaf mis Medi a hanner cyntaf mis Hydref a llwyddwyd sicrhau arweinwyr/darlithwyr ar gyfer tri oedran ym mhob cwrs. Bydd grwp athrawon plant dan 11 oed o dan ofal Miss Delyth Oswy Davies (Swyddog Datblygu Arfon); grwp athrawon 11-18 oed o dan arweiniad y Parch. Gwilym Ceiriog Evans (cyd-awdur llawlyfr 11-14 oed) a grwp dosbarthiadau'r oedolion dan arweiniad y Parch. Isaac Jones (awdur yr Esboniad am y flwyddyn). Bydd y cyrsiau yn cael eu cynnal yn y canolfannau canlynol: Caernarfon (Ebeneser Medi 16); Abergele (Mynydd Seion — Medi 24); Dinbych (Capel Mawr Medi 30); Y Bala (Capel Tegid Hydref 2); Llangefni (Lðn y Felin Hydref 9); Yr Wyddgrug (Bethesda Medi 23); Rhosllanerchrugog (Bethlehem Medi 26); Penrhyndeudraeth (Gorffwysfa Hydref 1); Pwllheli (Penmount Hydref 3); Llanrwst (Seion Hydref 10fed). Cofiwch nodi'r dyddiadau yn eich dyddiadur rhag unrhyw beth arall dorri ar draws y trefniadau pwysig hyn. Fe fydd hysbysiadau yn cael eu gyrru bob cylch yn nes at y dyddiadau. fìheinallt A. Thomas TREFNYDD Utgorn a Sain Hynod 3 Hugh Wynne Griffith Ann yn Llefaru Eto 5 N ia Rhosier Dyn Dwad 6 Y Golygydd Alcoholiaeth 8 E. R. Lloyd Jones Esgob Durham ac eraill 9 Alun Page Codi'r Caead 11 Ar Ffrwt Geiriau'r Ffydd 12 D. Hugh Matthews Codi Pontydd 14 Doris Eryri Jones CennadHedd 17 George M. LI. Davies Grym 18 Clymau Teuluoedd 19 W. J. Edwards Adolygiadau 20 Hywel D. Lewis, John H. Tudor, Edwin Pryce Jones, Rheinallt A. Thomas Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion'. Fe'i cyhoeddir gan Bwyllgor cyhoeddi Cristion ar ran yr eglwysi canlynol; Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru a'r Eglwys yng Nghymru. Golygydd: Enid Morgan, Tanyrallt, Abermagwr, Aberystwyth. Ffôn: 097-43-243. Cyfraniadau a llythyrau i'r cyfeiriad hwn. Bwrdd Golygyddol: lorwerth Jones, John Rice Rowlands, W. Hugh Pritchard, T. Bayley Hughes, Selyf Roberts. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: D. Wynford Jones, 17a High St., Aberystwyth. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: Gwilym R. Tilsley. Cylchrediad, Dosbarthu & Hysbysebion: Glyn Lewis Jones, Lleifior, 60 Danycoed, Aberyst- wyth. Argraffwyr: Tŷ John Penry, Ffordd St. Helen, Abertawe. Clawr: Diodydd yn denu. Gweler erthygl t.8. Llun: Marian Delyth.