Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Rhaid i mi gyffesu'n onest fod arnaf eich ofn. Chwi yw Gweinidog y Gyfraith (Min- ister of Justice). Y mae gennych at eich galw alluoedd arswydus na fyddai neb ond ynfytyn yn eu diystyru. Y mae'r rhai a ddio- ddefodd ar law'r galluoedd hynny wedi'u gwasgaru ar hyd llwybr gorffennol a phres- ennol De Affrig'. Y Dr. Allan Boesak sy'n cydnabod ei ofn mewn llythyr a anfonodd at y gweinidog ym mis Awst 1979; llythyr yn amddiffyn penderfyniad Cyngor Eglwysi De Affrig yn erbyn 'apartheid'. Er ofni gallu llywodraeth y dyn gwyn yn y wlad ni pheidiodd y Dr. Boesak a mynegi'i wrth- wynebiad i'w bolisi. Ddiwedd Mawrth eleni er enghraifft yr oedd yn un o arweinwyr yr orymdaith brotestiodd yn erbyn y lladdfa yn Langa, Cape Province. Pam y mae gwr ofnus yn gweithredu mor ddewr? Ceir yr esboniad yn glir yn y llyfr a gyhoeddwyd y llynedd yn Ne Affrig, 'Black and Reformed', sef casgliad o ysgrifau ac anerchiadau'r Dr. Boesak, gan gynnwys un a draddododd i Gymanfa Cyngor Eglwysi'r Byd yn Vancouver, 1983. Cyn ymdrin â chynnwys y llyfr dylid esbonio mai dyn du yw Allan Boesak, gweinidog ordeiniedig yn 'the Mission Church of the Dutch Reformed Church of South Africa'. Gwr o allu a ddyrchafwyd yn llywydd Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd, Cynghrair y mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn aelod ohoni. Yn llyfr Boesak ceir darlun clir o'r hyn y mae 'apartheid' yn ei olygu yn ymarferol. Trwy drais a thwyll y mae'r bobl wyn wedi meddiannu 87% o dir y wlad iddynt eu hunain, gan gyfyngu 80070 o boblogaeth y wlad i 13% o'r tir, a elwir yn 'homelands'. Er mwyn sefydlu'r 'homelands' symudwyd miliynau o bobl ddu o'u cartrefi heb fod ganddynt lais o gwbl yn y mater, fel pe baent yn greaduriaid yn cael eu symud o un borfa i'r llall. Ac yn y borfa newydd nid oes gynhaliaeth. Gorfodir y du iach i ennill eu bywoliaeth yn nhir y dyn gwyn. Canlyniad anochel hyn yw fod teuluoedd du yn cael eu torri i fyny, a phlant yn cael eu hamddifadu o gwmni'u rhieni. Ni ddarperir adnoddau digonol ar gyfer iechyd nac addysg y plant, ac yn yr 'homelands' mae'r hen yn edwino'n ddigysur ymhell o'u cynefin. Er mwyn cynnal y fath gyfundrefn pasiwyd deddfau sy'n tramgwyddo ugain o leiaf o erthyglau y datganiad ar Hawliau Dyn a dderbyniwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Pa ryfedd nad oes i De Affrig le yn y sefyd- liad hwnnw? Y mae un esiampl o weithred- iad cyfraith y wlad yn Ne Affrig yn taflu Proffwyd yn Ne Affrig Hugh Wynne Griffith goleuni llachar ar agwedd y dyn gwyn ynddi; Chwe blynedd yn ôl daliwyd bachgen du deuddeng mlwydd oed yn llwyn ffrwyth o ystordy ffermwr gwyn. Clymodd y ffermwr y bachgen at bostyn a'i chwipio, yna ei adael ynghlwm wrth y postyn dros y nos. Gwelodd pregethwr du yr hyn ddig- wyddodd a daeth yng nghanol nos i rydd- hau'r llanc a'i ddwyn at ei rieni. Trannoeth daliodd y ffarmwr a'i ddau fab y pregethwr a'i guro i farwolaeth. Llwyddwyd yn y diwedd i ddwyn yr achos i'r llys. Cafwyd y dynion gwyn yn euog. Dirwywyd hwy i dalu bob yn gant o 'rands'. Yr agwedd meddiol sy'n diystyru gwerth dyn am ei fod yn ddu sydd wrth wraidd 'apartheid'. Fel canlyniad y mae'r gwyn meddai Boesak, 'wedi gwneud deddfau sy'n gwyrdroi cyfiawnder, yn amddifadu' miliynau o bobl tlawd, gwan a diamddiffyn o nawdd a gallu'u gormeswyr Y maent yn dirmygu sancteiddrwydd priodas a bywyd teuluol y bobl ddu. Y maent yn trin y digartref gyda chreulonder dideimlad syfrdanol. Maent yn bwrw i garchar heb dreial. Maent yn distewi lleisiau proffwydol y wlad drwy ysgymundod (Banning orders). Creant arswyd yn y diniwed. Maent yn barod i saethu plant er mwyn cadw 'apartheid' ac uchafiaeth y dyn gwyn- Byddai dioddefiadau ei gydgenedl yn rheswm digonol dros safiad cadarn y Dr. Boesak. Ond y mae hefyd reswm arall efallai un dyfnach byth. 'Y mae 'apartheid' yn unigryw am ei fod meddir wedi'i sylfaenu ar egwyddorion Cristnogol. Cyfiawnheir-ef ar sail efengyl Iesu Grist'. Hyn sy'n cynhyrfu Boesak i'w waelodion. O 1932 ymlaen anfonodd Eglwys Ddiw- ygiedig yr Iseldiroedd yn Ne Affrig genad- wriau i'r llywodraeth yn galw arni i wneud deddfau'n cadw'r du a'r gwyn ar wahan. Mabwysiadwyd y polisi hwn gan y Blaid Genedlaethol a ddaeth i rym ar ol y rhyfel. O ganlyniad gallai lleferydd dros yr Eglwys honno ddweud yn 1958; 'Fel Eglwys yr ydym wedi gweithio'n egniol i gadw'r hiliau arwahan. Yn yr ystyr yna gellir galw 'apartheid' yn bolisi'r Eglwys'. Gwelir gwraidd yr agwedd hiliol yn y dyfyniad a rydd Dr. Boesak o waith hanesydd yn y ganrif ddiwethaf sy'n dweud am gaethion du: 'Ni theimlant waradwydd pan safant yn noeth o flaen y cyhoedd yn cael eu prynu a'u gwerthu. Os ceisiwch ddeall eu teim- ladau fel petaent yn Ewropeaid fe fyddech yn cyfeiliorni. Y mae'u magwraeth a'u ffyrdd o feddwl yn gwbl wahanol i eiddo'r Ewropead'. Pa ryfedd felly os oedd y Boer- iaid ar y dechrau yn anfodlon i'r creaduriaid israddol hyn gael clywed yr Efengyl? Dyfyna Boesak o adroddiad gweinidog a geisiai, yn niwedd y ddeunaw- fed ganrif, ganiatâd i efengyleiddio caeth- ion ffermwyr gwyn. Ei ddadl, yn y pen draw, oedd y byddai'r caethion yn weith- wyr mwy bodlon ar eu hamgylchiadau yn y byd hwn pe credent fod iddynt, trwy Grist, hapusrwydd yn y byd a ddaw. Ymatebodd y dyn du i'r Efengyl, bedyddiwyd ef i'r Eglwys, daeth yn un o deulu Duw. Os yw'n werthfawr yng ngolwg Duw pwy yw'r dyn gwyn i'w ddirmygu? Ceisiodd Eglwys Ddiwygiedig yr Iseldiroedd yn Ne Affrig ddadlau fod 'apartheid' yn gyson â'r Efen- gyl. Gwrthodwyd eu dadleuon yn llwyr gan Gyngor Eglwysi'r Byd a chan Gynghrair Eglwysi Diwygiedig y byd, a chyhoeddwyd fod 'apartheid' yn lygriad o'r Efengyl, yn heresi. Er anrhydedd yr Efengyl rhaid gwrthwynebu 'apartheid', meddai Boesak. Rhaid dangos hyn i bobl wyn a du De Affrig sydd wedi'u cyflyru i feddwl fod uchafiaeth y dyn gwyn, a'r anghyfiawnder sy'n oblygedig ynddo, yn gyson â'r Efengyl. Mae condemnio 'apartheid' yn ran han- fodol o efengyleiddio yn y byd sydd ohoni. Y mae ceisio bod yn niwtral gyfystyr â chef- nogi'r gormeswyr, y cwestiwn sy'n aros yw Pa fodd y gellir gwrthwynebu apartheid? Rhybuddia Boesak ei wrandawyr yn aml rhag cael eu dallu gan gyfnewidiadau bychain arwynebol sy'n gadael y gyfun- drefn anghyfiawn yn gadarn. Cyfnewid- iadau sy'n codi safon byw ychydig o bobl