Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ANN m LLEFARU ETO Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol amheuthun honno Cofiant Ann Griffiths sonia'r awdur, Morris Davies, Bangor am ddyhead y cyhoedd dros ei choffadwriaeth, ac iddynt gyfrannu'n hael tuag at y Gofgolofn hardd ym mynwent eglwys Llanfihangel-yng- Ngwynfa. Ei obaith yntau oedd i'w gyfrol fechan fod o 'fudd a diddanwch i'w heneid- iau' ac yn ymdrech deilwng i goffau'r ferch ryfedd ac arbennig hon o Faldwyn. Yn dilyn y rhagymadrodd cawn bennod yn dwyn y teitl 'Arweiniad i Mewn' ac yn honno cenir clod i wragedd crefyddol yn gyffredinol, gan nodi llawer ohonynt o'r Ysgrythurau a dweud hyn amdanynt: "Y maent yn fynych yn cael eu galw i weithredu mewn modd a than amgylch- iadau nad allai neb ond y rhyw fen- ywaidd weithredu ynddynt gyda'r tyner- wch amgeleddgar a'r ymroddiad pwyllog a hunan-ymwadol y bydd achosion pwysig a difrifol o'r fath yn eu gofyn Y mae niferi o famau a merched yn addurno hanes yr eglwys ymhob oes, ac yn chwyddo rhif gogoneddus 'ardder- chog lu y merthyri' trwy eu dianwadal- wch yn eu profess o Grist, a'u ffyddlon- deb iddo hyd angeu." Sylwer ar y geiriau 'ymhob oes'. Gallaf dystio i hynny yn bersonol hyd yn oed yn yr oes hunanol, wâg hon, lle y mae peryg i bobl fynd i feddwl nad oes a wnelo Duw ddim â hi. Ond yn sicr y mae'n gweithredu trwy ei weision a'i lawforynion ufudd heddiw fel erioed, a hynny yma yng Nghymru yn ogystal â thrwy'r fendigaid Fam Theresa yn y Trydydd Byd. Oes, y mae gwaith aruthrol gan Dduw ar ein cyfer ni Llun: Wiliam Owen. Nia Rhosier wragedd a merched Cymru ond inni chwilio'n onest ac ufuddhau i'n Tad cariad- lon a thosturiol. Gosododd ar fysgwyddau i Weinidogaeth y Cymod yn yr un modd yn union, mi dybiaf, ag y bu iddo, yn ei ras, weithredu yn achubol ar feddyliau teulu Dolwar Fach ymron i ddau gant o flynydd- oedd yn lôl, ac arwain brawd hynaf Ann Thomas, John yng ngeiriau Morris Davies i'r adnabyddiaeth o drefn rasol yr efengyl sef bod "Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau" ac wedyn Ann, hithau i'r berthynas eirias a chyfriniol â'i Harglwydd y bu'r Cymry'n rhyfeddu ati ar hyd y blyn- yddoedd. Tybed ai oherwydd i Gymry'r oes hon ddechrau anghofio y bu iddo estyn gwa- hoddiad drachefn i Gymraes o Faldwyn wrando ar ei dyner lais yn galw arni? Yn sicr fe wnaeth, a'm braint innau oedd ufuddhau'n wylaidd a chysegru weddill fy mywyd i'w wasanaeth. Nid rhyfedd, felly, imi ymdeimlo'n angerddol â'r angen i adfer Hen Gapel John Hughes, Pont Robert at ddibenion ysbrydol, a'i weld yn fangre pererindod lle y medrid cysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol ym mhresenoldeb ysbryd yr hynod John Hughes, y danbaid fendigaid Ann a'r Ysbryd Glân ei hun mewn defos- iynau cyfoes a fydd yn adlewyrchu'r gwir ddiwygiad sydd ar gerdded yng Nghymru heddiw. Diwygiad tawel y cyrddau tai, y seiadau, y cyfarfodydd gweddi a'r agos- atrwydd carismataidd; tân y cariad a'r cymod sy'n deillio o ddyfnder bod enaid a'r awydd i faddau i'n gelynion trwy gyfath- rach gymdeithasol agos, yn hytrach na thân y pregethau mawr bellach. Saif pulpud John Hughes yn yr Hen Gapel o hyd a da yw inni gofio dylanwad pregethwyr y diwygiadau a fu, ond i bawb sy'n wir ymateb i alwad y Duw cyfoes ymhob oes daw'r sylweddoliad bod angen gadael ein gafael ar y 'cyfarwydd' er mwyn bod yn gwbl agored i ewyllys Duw ein Tad ar ein cyfer NI yn yr oes hon. Datgelodd i mi bwysigrwydd addoli cyfoes, ond hefyd dan- gosodd ei awydd i ni yng Nghymru gadw cysylltiad byw â'r gorffennol wrth inni wynebu'r dyfodol gyda ffydd diysgog yn ei allu a'i gariad ef i'n tywys i berffeithrwydd. A gaf eich cefnogaeth moesol ac ariannol i adnewyddu ein ffydd a'n tystiolaeth er gogoniant i'r hwn a'n creodd yn Gymry ac i'w fab a'n gwnaeth yn frodyr a chwiorydd iddo trwy ei gariad aberthol a chymodlon? Danfoner pob rhodd tuag at adfer yr Hen Gapel at Drysorydd y Pwyllgor Lleol ym Maldwyn, Y Fon. Beryl Vaughan, Sychtyn, Llanerfyl, Y Trallwng, Powys, a phob cyf- raniad i ffyniant Gweinidogaeth y Cymod ataf fi, Nia Rhosier, 14 Kenilworth House, Cwrt y Castell, Heol y Porth, Caerdydd CFl 1DJ. Diolch o galon a bendith arnoch.