Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fyd busnes yn asgwrn cefn i weithgarwch ym myd teledu. A dyna sut ym 1981 y sefydlwyd y "Trinity Trust", ymddiried- olaeth sy'n arbennigo ar gynhyrchu deunydd addysgol Cristnogol at wasanaeth yr holl eglwysi. Un o gynlluniau'r Trinity Trust oedd "Treftadaeth Gristnogol" ac wrth ddat- blygu gweithgarwch yng Nghymru y daeth Charles Cordle i sylweddoli arbenigrwydd ac arwahanrwydd y Gymru Gymraeg. Mae ei gartref ar y ffin â Chymru ger y Gelli Gandryll yn swydd Henffordd ac mae dwy flynedd o weithio gyda Chymry wedi dangos iddo mor wahanol yw pethau yma. Ond mae'r Trinity Trust yn fwy na chefn i un flwyddyn o gweithgarwch. Ei brif weithgarwch yw "Trinity Video". Busnes sy'n datblygu ar garlam yw'r busnes fideo fel y sylweddola unrhywun sy' wedi sylwi ar y siopau a'r clybiau fideo ar hyd a lle y wlad. Y mae'r deunydd a gynhyrchir yn amrywio'n enfawr ac y mae llawer ohono yn dibynnu ar ryw, ar drais, ar gabledd. Bwriad y Trinity Trust oedd dar- paru corff sylweddol o ddeunydd mwyniant yn ogystal â deunydd addysgol a fyddai'n ddifyr ac o safon broffesiynol uchel. Erbyn hyn mae ganddynt 450 o deitlau ar eu catalog ac y mae'r rhain yn cynnwys ffilmiau i blant a'r teulu, deunydd am chwaraeuon, am bynciau cymdeithasol a phenodol Gristnogol. Cynllun mwyaf uchelgeisiol y cwmni oedd cyfres o ffilmiau ar y thema "Jesus Then and Now" gyda'r diweddar David Watson yn cyflwyno deunydd ar brif fannau'r ffydd. (Y cynnwys hwn fydd sylfaen addasiad Cymraeg o'r gyfres a ddarlledir gan S4C in 1986). Gwnaed y ffilm gan Lella Productions, cwmni a enwyd ar ôl yr eneth fach a fu farw. Ond nid yw Charles Cordle bellach yn ymwneud yn uniongyrchol â'i waith. Fe gostiodd yn agos i hanner miliwn i gynhyrchu'r gyfres hon. O ble mae'r arian yn dod ar gyfer cynlluniau mor uchelgeis- iol? Oddiwrth ymddiriedolaethau o wahanol fath. Yng Nghymru gwyddom am ymddir- iedolaeth Pantyfedwen a'r Jane Hodge Trust. Y mae Mr. Julian Hodge wedi bod yn hael ei gefnogaeth i weithgarwch y Trinity Trust yng Nghymru. Un o prif gefnogwyr gweithgarwch Cristnogol ym Mhrydain yw'r Sir Kirby Laing Trust (a sefydlwyd gan deulu J. M. Laing yr adeiladwyp). Y mae'r ymddiriedolaeth hon yn gefn i'r Ganolfan Addysg Grefyddol ym Mangor hefyd. Ymddiriedolaeth adnabyddus yw un Joseph Rank a theulu Wills y cwmni tybaco sydd y tu cefn i'r Dulverton Trust. Ffynhonellau eraill yw ymddiriedolaethau Penrhyn, Bass Char- rington a James Williams. I'r gwaith yng Nghymru bu Americanwr o'r enw Greg Holloway, gwr o dras Cymreig sy'n byw ger Brynmawr yn hael iawn hefyd. Cymhelliad a bwriad yr ymddiriedolae- thau hyn i gyd yw cefnogi gweithgarwch i ddwyn yr efengyl i glyw pobl heddiw. "Wyddoch chi fod yna bobl gyfoethog sy'n rhoi cymaint â miliwn o bunnau'r flwyddyn i weithgarwch Cristnogol?" medd Charles Cordle. Ond oes angen bod yn ofalus ag arian America? "O fe fu pobl yn Lloegr yn fy nghyhuddo o gael arian gan y CBI. Mae e'n nonsens llwyr! A fyddwn i ddim yn cyffwrdd ag arian felly beth bynnag. Nac â'r deunydd y mae'r eglwysi "electronig" Americanaidd yn ei gynhyrchu. Ar wahan i'r ffaith ei fod yn ddiwylliannol gwbl annerbyniol, mae'r meddylfryd y tu cefn iddo yn hollol ddieithr i'n traddodiad ni o ddarlledu ym Mhrydain." Beth am ei gymhellion crefyddol ei hun? Mae brwdfrydedd y dyn wedi peri i rai ofni cefnogaeth rhyw sect fach ffwndamental- aidd eithafol ac anghytbwys. Anglicanwr o gefndir efengylaidd ydyw ond y mae'n briod â Phabyddes. Mae'r ddau wedi glynu at eu cefndir enwadol "Ond mi wna i gydweithio ag unrhywun sy'n caru'r Arglwydd Iesu. Fe weithiaf gyda Cathol- igion a Chalfiniaid, gydag Annibynnwyr a Phentecostaliaid, Bedyddwyr a Phresbyter- iaid." Mae'r Trinity Trust yn gwbl eciwmenaidd (dau o'i noddwyr yw Arglwydd Tonypandy ac Archesgob Caer- gaint). "Does gennym ni ddim cyffes ffydd mae Credo'r Apostolion a Nicaea'n gwneud y tro'n burion i ni!" Ac mae'n ychwanegu, eto'n daer. "Wir y cwbl 'rwy am wneud yw gwasanaethu'r eglwysi, eisau eu helpu 'nhw i ddefnyddio cyfryngau heddiw. Yn syml mae gen i ddawn i godi arian." Os yw e wedi gwerthu ei gwmni, sut mae e'n byw? Mae e'n tynnu cyflog o'r Trinity Trust pan mae arian ar gael gan hwnnw. Bu am gyfnod yn dibynnu ar haelioni cyfeill- ion, ond mae'n gweld hynny hefyd fel prawf ffydd iddo ef a'i wraig Anne. Corwynt o ddyn sydd yn ei frwdfrydedd yn gallu tarfu'r colomennod. Nid yw ei wybodaeth o Gymru mor helaeth â'i frwd- frydedd ond y mae'n barod i ddysgu ac mae'n awyddus i rannu ei weledigaeth. Tybed a fedrwn ni harneisic'i fedr a'i weledigaeth i anghenion Cymru, a'r Gymru Gymraeg heddiw? Dyn dieithr ei fyd, dieithr ei fedrau a (waeth i ni gyfaddef) dieithr ei frwdfrydedd dros yr Efengyl. Cyfeiriad y Trinity Trust yw PO Box No.5, Y Gelli Gandryll (Hay-on- Wye), Henffordd HR3 5TP. Bydd fideo o Dreftadaeth Gristnogol Cymru ar gael oddiyno a chyhoeddir manylion pellach yn y wasg Gymraeg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. DECHRAU DOETHINEB Y rhai hyn ydyw'r dwylo a rwymwyd yn saff â rheffyn fy nhâl, ac ni allaf gyrraedd eich dolur na rhoi fy mys yn eich briw. Y rhai hyn ydyw'r llygaid a hoeliwyd yn sownd wrth y llyfr du rhag iddynt grwydro a darllen rhwng llinellau eich cyfrolau coch. A hwn ydyw'r tafod a Iynwyd â glud ar anrhegion rhag neb allu dal ar y gair na'i 'nabod yn rhibidirês yr ystrydebion. Dysgais yn gynnar i barchu gwers gyntaf moesgarwch ac i wylio'n ofalus rhag galw yr un bai wrth ei enw brwnt. Dywedodd fy neall mai dechrau doethineb yw distawrwydd a bod mudandod i mi yn werth ei bwysau mewn aur. Meirion Evans Porth Tywyn Na Chwennych Mae'r Beibl yn eglur ar beryglon eidd- igedd. Yn Ilyfr Ecsodus dywedir. Na chwennych dy dy gymydog na chwennych wraig dy gymydog na'i wasanaethwr na'i ych na'i asyn na dim a'r sydd eiddo dy gymydog (Ecsodus 20 ad 17). Hwyrach nad oes llawer o wasan- aethwyr ar gael heddiw, ac mae ych ac asyn wedi hen fynd heibio ond gallai gorchymyn am fyngalo newydd crand, neu wyliau tramor, neu offer cegin, neu Jaguar newydd sbon dy gymydog fod yn eithriadol o berth- nasol (addaswyd o'r Baptist Times). Deud ydw i Dydyn ni ddim yn etifeddu'r ddaear gan ein hynafiaid; 'ryn ni'n ei fenthyca gan ein plant. (Jonathan Porritt, Cyfarwyddwr Friends of the Earth). Pan wyf yn rhoi bwyd i'r tlawd mae 'nhw'n fy ngalw'n sant. Pan 'wy'n holi pam nad oes gan y tlawd fwyd, mae 'nhw'n fy ngalw yn gomiwynydd. (Dom Helder Camara).