Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAIS Y PROFFWYD Yn y rhifyn diwethaf soniodd E. R. Lloyd Jones, Llandudno, am seiliau beiblaidd "y gair proffwydol." Yma y mae'n ymaflyd ym "mhroblem y ddiod." "Anrhefn endemig o faint sy'n frawychus." Fe ddylid i gychwyn egluro paham bod y drafodaeth ar y gair proffwydol yn cychwyn gydag alcoholiaeth. Pe baem yn chwilio'n y gorffennol Anghydffurfiol Cymraeg fe ganfyddem bod llwyrymwrthod yn un o'r conglfeini yn y traddodiad hwnnw. Diau bod hynny wedi llithro'n anymwybodol i'm gwneuthuriad innau. Ar y llaw arall mae yma rywbeth sy'n fwy nag y gellir ei ddisgrifio fel rhan o etifeddiaeth anymwybodol yr Anghydffurfiwr Cymraeg. Fe sylwodd Adroddiad mor bwysig ag eiddo Pwyllgor Arbennig o Goleg Brenhinol y Seiceiatryddion a gyhoeddwyd yn 1979 ei bod yn amser "i ymateb i broblem fawr a bygythiol". Cyhoeddwyd yr adroddiad, meddai ei awduron, am fod yma broblem, nid ar ymylon cymdeithas, eithr sy'n annrhefn endemig o faint sy'n frawychus. Amcangyfrif ceidwadol fyddai dweud bod gan 300,000 o bobl ym Mhrydain broblem diod sydd mor ddrwg nes cyfiawnhau eu galw'n alcoholwyr. Dywedir, os oes gan berson broblem yfed ddifrifol mae ei obeithion am gael byw yn ddwywaith a theirgwaith llai nag ydyw'r gobeithion hynny o fewn poblogaeth o'r un oed a'r un rhyw. Yn ystod y cyfnod o ugain mlynedd, 1959-1979, cynyddodd y nifer a dderbynnid i ysbytai seiceiatrig oherwydd alcoholiaeth gymaint â phum gwaith ar hugain. Yn 1979 'roedd y nifer a dderbynnid yng Nghymru a Lloegr yn 13,500 y flwyddyn a'r gost am y gofal dros £ 4,000,000 y flwyddyn. Dros yr un cyfnod amcangyfrifwyd bod damweiniau'r ffyrdd o ganlyniad i ddreifio ar ôl yfed alcohol oddeutu £ 100,000,000 y flwyddyn. Efallai fy mod yn tynnu ar ystadegau sydd yn hen a heb fod yn fanwl gywir ar gyfer heddiw, ond maent yn profi'r pwynt ei bod yn deg inni sôn am "broblem fawr a bygythiol" ac am "annhrefn endemig o faint sy'n frawychus." "Y clwy alcoholaidd fel dimensiwn i'n gwaseidd- dra yng Nghymru." Dylem, fel y gwna'r adroddiad uchod, ddweud dau beth am alcohol: ei fod yn sylwedd y mae mwyafrif y bobl sy'n ei yfed yn medru gwneud hynny'n dda a doeth ac na ddaw dim iddynt ond pleser a bendith wrth ei yfed; a bod alcohol hefyd yn gyffur sy'n gallu chwalu a difetha bywyd yn druenus ac sy'n hawlio'r gost honno ar raddfa sy'n ddinistriol. Wedi dweud hyn, rhaid ystyried beth yw 'alcoholiaeth'. Sonir amdano gan rai yn nhermau 'dibyniaeth' ac 'anallu', a chan eraill yn nhermau'r syndrome o ddibyniaeth alcoholaidd neu glwy alcoholig. Gwêl eraill y term fel un llawer mwy cynhwysol, yn golygu pob math a theip, lie mae dyn yn peri anabledd difrifol a thaer fel canlyniad yfed, a hynny heb ystyried dibyniaeth fel y cyfryw. Diau mai yn yr ystyr gynhwysol hon y dylem feddwl am alcoholiaeth i bwrpas hyn o lith. Y dasg a osodwyd yn y gyfres hon yw darganfod y gair proffwydol a hynny ar seiliau Beiblaidd, ac mae'n siwr bod rhywun o'r darllenwyr yn ddigon craff i sylwi mai gyda chymdeithas heddiw y dechreuwyd yr ysgrif yma. Yr unig ateb posib i hyn yw dweud mai'r gair proffwydol Beiblaidd sy'n dehongli'r sefyllfa honno gywiraf, a chan nad yw o bwys o ba ben y dechreuwn, mai i'r un man y deuwn yn y diwedd. Felly beth yw'r gair i'r cyflwr yma gan Joel? Rhydd orchymyn ar ddechrau ei broffwydoliaeth, "Gair yr Arglwydd gwrandewch hyn chwi henuriaid deffrowch feddwyr, ac wylwch Yn naturiol fe'n cyfyngir i'r 'meddwyr' a'r 'yfwyr gwin'. Y rhai cyntaf i ddioddef gan ddifodiant y pla locustiaid, yn ôl 1:4, yw'r 'meddwyr' a'r 'yfwyr gwin'. Byddai raid iddynt wynebu rialiti pethau wedi