Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

the mystic and the prophet of the little band" felly y dywed L. E. Elliott-Binns, English Thought 1860-1900, p.121. Mewn cydweithrediad â Hort cyhoeddodd Westcott fersiwn safonol o destun Groeg y Testament Newydd ym 1881. Mewn campwaith o ragarweiniad rhoes Hort fynegiant i'r egwyddorion sylfaenol wrth drafod y llawysgrifau: erys hyn yn safonol hyd heddiw. Ymosodwyd ar eu gwaith gan gynrychiolwyr yr hen safonau a oedd yn arddel y Received Text ac yn amharod i drafod unrhyw newidiadau yn y fersiynau eraill a ddaeth i'r golwg, fel y Codex Bezae, Sinaiticus, Vaticanus, ac yn y blaen. Y pennaf ohonynt oedd y Deon Burgon, a doniol braidd oedd gweld dyfynnu hwnnw'n awdurdod gan un o geidwaid y ffydd ffwndamentalaidd ar dudalennau un o'r wythnosolion crefyddol Cymraeg yn ddiweddar! Yr oedd Joseph Barber Lightfoot (1828-1889) yn esboniwr Beiblaidd o athrylith. Galwyd ef gan neb llai na'r Archesgob William Temple "yr esboniwr mwyaf o'r Testament Newydd yn ein hoes ni". Yn bennaf dim hanesydd manwl oedd Lightfoot yn hytrach na diwinydd systematig. Yn wir, honnir nad oedd ei wybodaeth o athroniaeth yn fawr iawn. Roedd yr agweddau athronyddol o ddiddordeb iddo'n bennaf o safbwynt hanesyddol. Ond rhoes ei esboniad ar Y Galatiaid ym 1865 safon newydd yn y maes. Dilynwyd hyn gan gampweithiau megis yr esboniadau ar Y Philipiaid (1868) a'r Colosiaid (1875). Yn ôl Elliott-Binns ei gyfraniad mwyaf oedd ei argraffiad o'r Tadau Apostolaidd a enynnodd edmygedd yr ysgolhaig mawr o'r Almaen, Adolf Harnack. Galwyd y gwaith hwn gan un cymwys i'w farnu "the greatest contribution to patristic learning in the last two centuries." Cafodd Lightfoot gynnig esgobaeth Lichfield ym 1868 ond tybiai na ddylai droi cefn ar ei waith yng Nghaergrawnt y pryd hwnnw. Ymhen 11 mlynedd cafodd ei wahodd i esgobaeth Durham, ac wedi hir ymdroi derbyniodd y cynnig. Roedd Lightfoot yn wr cydwybodol ac yn cyflawni'r holl ddyletswyddau'n gywir ond i rywun "o'r tu allan" erys amheuaeth ynglyn â'r priodoldeb o wneud esgob ohono. Gellir honni i ysgolheictod Gristnogol gael colled fawr! Ni cheisiwn bwyso rhai o'r esgobion eraill yn yr un dafol syniadol, er iddynt wneud cyfraniadau o bwys mewn mwy nag un maes. Dyn diddorol oedd Charles Gore (1853-1932): ei gefndir yn freiniol ac aristocrataidd, a'i agwedd at bobl a anghytunai ag ef yn bur ddi-amynedd, ambell waith. Cynrychiolai Gore y safbwynt Uchel Eglwysig neu Eingl- Gatholig di-gymrodedd. Gwnaeth waith mawr a dylanwadol drwy'i lyfrau a'i ysgrifeniadau; ei waith pwysicaf, siwr o fod, er iddo derfynu'i oes yn esgob Rhydychen. Ymroes i drafod problemau dyrys yn codi'n sgil gwybodaeth newydd mewn perthynas ag astudiaethau Beiblaidd, gan gofio am nodweddion y gymdeithas oedd yn datblygu'n seciwlaraidd o'i gwmpas. Ond trafodai'r cwbl o sylfeini'r safbwynt Catholig. Bu'n gyfrifol am sefydlu Cymundod yr Atgyfodiad ym Mirfield, Swydd Efrog; sefydliad mynachaidd ei naws sy'n cynnwys glewion ymhlith ei aelodau yn ein canrif ni Trevor Huddlestone, yr ymladdwr dewr dros hawliau'r Duon yn Africa, a'r meddyliwr herfeiddiol, Harry Williams, ac eraill. Bu Gore yn brifathro Pusey House yn Rhydychen, sefydliad diwinyddol yn unol â'i safbwynt. Bu'n olygydd llyfr enwog o draethodau diwinyddol ar y cyd, Lux Mundi a gyhoeddwyd ym 1889. Creodd gyffro aruthrol ymhlith yr ofnus uniongred eglwysig. Thema'r gyfrol oedd trafod yr Ymgnawdoliad a rhoddwyd lle anrhydeddus i rai o ganlyniadau ysgolheictod Beiblaidd. Golygodd gydag eraill hefyd A New Commentary on Holy Scripture. Eto, o safbwynt un "o'r tu allan" ymddengys fod y gyfrol gyfansawdd a gwerthfawr hon yn ymgais i wneud yr un gwaith ag Esboniad Peake yn fwy at flas yr Uchel Eglwyswyr! O safbwynt Cymro, diddorol gweld enwau dau o gyn-athrawon Coleg Llanbedr-pont-Steffan ymhlith y cyfranwyr, Charles Harris a D. D. Bartlett (a fu'n esgob Llanelwy wedyn). Diau y byddai llawer un yn cofio'n well am Gore ac yn cyffesu'u dyled iddo, fel awdur Belief in God. Creadur hynod ddiddorol oedd Herbert Hensley Henson (1863-1947). Ysgolhaig disglair yn Rhydychen, er na fu iddo gyrraedd y lie breintiedig hwnnw'n ôl y drefn arferol, ond fel yr hyn a elwid yn "non-collegiate student" ym 1881. Etholwyd ef i un o binaclau'r byd academaidd, yn Gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau. Dyn annibynnol a phendant ei farn a'i opiniynau oedd Henson, ac yn meddu ar dafod siarp a chlyfar. Un braidd yn annisgwyl i'w weld yn mynd yn offeiriad plwyf. Ond felly y bu. Roedd yn feirniad ffyrnig o unrhyw dueddiadau "Rhufeinig" tybiedig yn y rhengoedd. Pan sefydlwyd ef yn rheithor eglwys St. Margaret, Westminster, eglwys Ty'r Cyffredin a Llundain ffasiynol, denodd gynulleidfaoedd mawr i wrando'i bregethau rhyddfrydig eu naws a'u diwinyddiaeth. Bu'n ddeon eglwys gadeiriol Durham ond pan orseddwyd ef yn esgob Henffordd ym 1918 cafodd ei wrthwynebu gan lawer o'r Eingl-Gatholigion. Ni hidiai Henson: ym 1909 mynnodd bregethu yn eglwys yr Annibynwyr Carr's Lane, Birmingham er i'r esgob, ei gyfaill Charles Gore, ei wahardd. Ym 1920 sefydlwyd ef yn esgob Durham. Mae creaduriaid cynhyrfus wedi bod yno o flaen David Jenkins! "Mi ddois i'r eglwys heno, ficer achos 'does na fawr o ddim ar y bocs tua wyth!"